Gwasanaethau'r Cyngor:

Gofal plant

Mae gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd Ynys Môn yn bwynt mynediad canolog a chyfrinachol.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Thrwyddo ceir gwybodaeth yn rhad ac am ddim a honno’n wybodaeth ddiduedd ar nifer o wasanaethau gofal o safon uchel ac am brisiau rhesymol i deuluoedd; hefyd geir wybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael ym Môn i blant a phobl ifanc

Ar y naill law rydym yn cadw gwybodaeth am yr holl wasanaethau gofal cofrestredig yn ein dalgylch ond hefyd ceisiwn sicrhau cymaint o wybodaeth ag y bo’n bosib am wasanaethau heb eu cofrestru.

Nid ydym yn cymeradwyo nac yn argymell mathau penodol o wasanaeth; ein pwrpas yw rhoi gwybodaeth berthnasol am bob gwasanaeth fel cymorth i rieni a gofalwyr gwrdd ag anghenion yr unigolyn. Y nod yw darparu gwybodaeth gywir, sy’n gyfoes ac yn ddiduedd am y gwasanaethau gofal ac addysg gynnar i blant a phobl ifanc.

Mae croeso i chi chwilio trwy ein cyfeirlyfr teuluoedd - dilynwch y linc ar waelod y dudalen hon. Mae’r cyfeirlyfr hwn yn tyfu bob dydd ac ynddo rhestrir y cyrff a’r cymdeithasau hynny ym Môn sy’n gofalu am blant. Gyda hyn bydd yn darparu rhestr o’r holl gyrff a chymdeithasau eraill sy’n darparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc yn Ynys Môn.

Bwriad y gwasanaeth hwn yw darparu, mewn un man cyfleus, gwybodaeth o safon sy’n ddiduedd a hefyd yn gyfleus a hwylus i gael ati a darparu canllawiau i rieni/gofalwyr ar ddewis gofal i blant dan 8 oed.

Dyma’r meysydd y mae gennym wybodaeth amdanynt:

  • gwarchodwyr
  • methrinfeydd
  • clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae dros gyfnod y gwyliau
  • grwpiau chwarae
  • grwpiau rhiant a phlentyn
  • cyfleon hyfforddi
  • cefnogaeth leol a grwpiau cynghori
  • cyrff/cymdeithasau lleol i blant a phobl ifanc

Gallwch holi dros y ffôn - dydd Llun i ddydd Gwener 01248 725800 (y tu allan i oriau hyn y mae peiriant ateb ar gael).

Yn gyffredinol bydd ein gwefan yn cynnig yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen (dilynwch y linc ar waelod y dudalen hon) ond os methwch â dod o hyd i’r wybodaeth y mae arnoch ei hangen neu petaech yn dymuno cael rhagor o gyngor yna cysylltwch gyda ni.

Gallwch anfon neges ebost atom ar: ggd@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 10 Tach 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?