Grŵp Ymgynghorol Diogelwch (GYD)
Fe gyfansoddir y GYD yn y dull canlynol, fodd bynnag dylai cyfansoddiad y GYD fod yn briodol ar gyfer y digwyddiad a gynllunnir ar y pryd –
Bydd yr aelodau craidd yn cynnwys:
- Cadair (o’r awdurdod lleol)
- Gweinyddiaeth (o’r awdurdod lleol)
- Gwasanaethau arweiniol ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd,
- Trwyddedu ac Iechyd a Diogelwch
- Gwasanaeth Trafnidiaeth a Gofal Stryd
- Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Argyfwng Gogledd Cymru
- Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru
- Iechyd yr Amgylchedd
- Heddlu Cludiant Prydeinig (os ystyrir yn angenrheidiol)
- Gwarchodwyr y Glannau (os ystyrir yn angenrheidiol)
Gall y canlynol gael eu gwahodd i unai holl gyfarfodydd GYD neu i un cyfarfod arbennig fel yr ystyrir yn briodol:
- GIC NHS/Gwasanaethau Iechyd cyhoeddus
- Cynghorau Gogledd Cymru - Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol
- Cynrychiolaeth gwasanaeth Cyfreithiol (y cyfreithiwr perthnasol ar gyfer yr awdurdod lleol)
- Cynrychiolaeth arall perthnasol megis priffyrdd, gwasanaeth rheolaeth gwastraff
- Gwasanaethau cymorth cyntaf gwirfoddol
- Gwasanaethau Parciau ac Arforol
- Cynrychiolydd Twristiaeth leol
- Cynrychiolaeth busnes lleol
- Adnoddau naturiol Cymru
Gall y gadair wahodd arbenigwyr eraill fel y mae’r Gadair yn ystyried yn briodol er mwyn cynorthwyo’r GYD. i ystyried unrhyw fater yn llawn.
Prif rôl gyd
Prif rôl GYD yw darparu cyngor arbenigol ar gyfer yr ‘awdurdod lleol sy’n cartrefu’r digwyddiad i’w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaethau diogelwch a lles y cyhoedd.
- I gynghori ar ddigwyddiad, lleoliadau a’i amgylchoedd yn ôl y gofyn
- I dderbyn adroddiadau mewn perthynas â materion a ddarganfyddir gan aelodau o’r grwp yn ystod archwiliadau
- I gynghori ar weithgareddau gorfodaeth a dyletswydd gofal y llywodraeth leol a phartneriaid eraill yn unol â diffiniad deddfwriaeth berthnasol
- I ddarparu fforwm i alluogi awdurdod lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu dull cyd weithredol yng nghyswllt diogelwch a lles torf a gwylwyr
Saif y cyfrifoldeb eithaf am ddiogelwch digwyddiad gyda’r trefnydd digwyddiad a’r tîm rheoli.