Mudiadau gwirfoddol
Am wybodaeth am grwpiau cymunedol gweler tudalen Medrwn Môn - Cyngor Gwirfoddol Ynys Môn.
Mae Medrwn Môn yn cefnogi Grwpiau Gwirfoddol a Cymunedol ar Ynys Môn. Mae ymaelodi am ddim i unrhyw fudiad gwirfoddol. Os hoffech ymuno â ni cysylltwch â’r swyddfa am ffurflen aelodaeth (rhif elusen: 1088828).
Pa wasanaethau mae Medrwn Môn yn cynnig?
- help gyda sefydlu mudiadau newydd
- cofrestru yn elusen
- gallwn helpu gyda chyllido
- trefnu gweithdai hyfforddiant
- gwasanaethau ymarferol fel cefnogaeth weinyddol, llungopio, helpu gyda chyhoeddusrwydd a llawer mwy
- cyngor a help wrth lenwi ffurflenni a cheisiadau
- materion cyfrifon cyffredinol
- cylchlythyr rheolaidd i gadw mewn cysylltiad
- help wrth ddatblygu prosiectau newydd
- cymorth wrth baratoi cynlluniau busnes
- cyngor/gwybodaeth ar feysydd chwarae a diogelwch plant
- canolfan leol i ddarpar wirfoddolwyr, mudiadau gwirfoddol, asiantaethau statudol a phreifat sydd yn defnyddio gwirfoddolwyr
- gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
- hyrwyddo, cefnogi a datblygu cyfranogiad gwirfoddol i bob adran o’r gymuned
- Car Linc Môn - cynllun cludiant cymunedol cymdeithasol lleol gyda gyrrwyr gwirfoddol i alluogi pobl leol i wneud teithiau hanfodol lle nad oes modd arall o gludiant ar gael, hefyd gwasanaeth gan wirfoddolwyr yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion sylfaenol e. siopa, hebrwng, casglu presgripsiwn ayyb. (TGl bychain yn daladwy)
- cysylltiadau a Chynlluniau Tro Da Allanol sy’n cynnig cymorth anffurfiol a gwybodaeth. Aberffraw, Amlwch, Benllech, Gwalchmai a Morawelon a Ffordd Llundain Caergybi (TGl bychain yn daladwy)
Cysylltu â ni
Ffôn: 01248 724944
Ffacs: 01248 750149
ebost: post@medrwnmon.org




