Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Teulu Môn


Teulu Mon LogoGwasanaeth digost a chynhwysol ar gyfer teuluoedd

Gwasanaeth digost a chynhwysol ar gyfer teuluoedd yw Teulu Môn. 

Gwasanaeth sy’n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Plant, Teuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol er mwyn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â Phlant, a theuluoedd sydd â phlant, rhwng 0 i 25 oed.

Rydym yn rhan o Wasanaethau Plant Ynys Môn a gallwn roi cymorth i chi os ydych:

  • yn chwilio am ofal plant neu’n meddwl dechrau gweithio fel gofalwr plant proffesiynol
  • eisiau gwybodaeth am weithgareddau i blant a/neu grwpiau cymorth lleol yn yr ardal
  • angen cyngor ar sut i helpu teulu sydd angen cefnogaeth ychwanegol, oherwydd bod teulu wedi chwalu, pryderon yn ymwneud â thai, problemau ariannol neu brofedigaeth
  • eisiau cymorth ar gyfer teulu sy’n wynebu problemau yn yr ysgol, oherwydd anabledd yn y teulu, beichiogrwydd yn yr arddegau, cam-drin alcohol a chyffuriau
  • eisiau siarad am bryder sydd gennych am lesiant neu niwed posibl i blentyn

Rydyn ni yma i gefnogi

Rydym yn angerddol dros uno asiantaethau i gefnogi teuluoedd drwy sicrhau bod pob plentyn a theulu’n gallu cael mynediad rhwydd at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth mor fuan â phosib.

Felly os ydych yn rhiant, yn aelod o’r teulu, yn gymydog neu’n weithiwr proffesiynol sy’n chwilio am wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth - rydym yma i’ch cefnogi i ganfod yr ateb gorau i’ch ymholiad.

Teulu mon

Cysylltu â ni

Ffoniwch ni ar 01248 725 888 rhwng 8:45am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener. Gofynnwch am Teulu Môn.

Facebook

Peidiwch ag anghofio ein dilyn ar Facebook lle byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau estyn allan yn y gymuned sydd ar y gweill.

Cymorth ariannol i blant yn gofal plant ac addysg

Mae help ar gael gyda chostau gofal plant i rieni. P'un a oes gennych blant ifanc neu bobl ifanc yn eu harddegau, gallech gael cymorth.

Darganfod mwy am gostau gofal plant