Gwasanaethau'r Cyngor:

Defaid.com

Mae Defaid yn wefan ryngweithiol sy’n annog creadigrwydd a chysylltiad uniongyrchol wrth ddarparu gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael i bob un ohonoch chi, bobl ifanc Ynys Môn.

Mae’r safle yn gweithredu o fewn dy Ddeg Hawl (hawliau pobl ifanc fel y cyflwynir hwy gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) ac mae’n cyd-fynd gyda’r Siarter Ewropeaidd Gwybodaeth Ieuenctid.

Mae Defaid.com yn rhan o CLIC, y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn cynnwys adran gwybodaeth, porthwyr RSS, defnyddio chwaraewyr cyfryngau a YouTube i wella’r cynnwys, y gallu i arddangos erthyglau pobl ifanc ar y wefan genedlaethol a dros siroedd eraill os yn berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru, dwyieithog. Mewn datblygiad mae fersiwn graffeg isel, ac integreiddio Defaid i ddefnyddio dyfeisiau darllen sgrin.

Mae grŵp Golygyddol rhwng 11 a 25 oed yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gyfrifol am ysgrifennu, rhoi adroddiadau, tynnu lluniau, dylunio, hyrwyddo ac unrhyw beth arall a deimlant y dylid ei gynnwys. Maent hefyd yn gwneud penderfyniadau am gynnwys a newidiadau technegol.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp neu fynd i un o’r cyfarfodydd, cysyllta gyda’r Golygydd:gwybodaeth@defaid.com

Cysylltiadau

  • Gwasanaeth Addysg

    Park Mount

    Ffordd Glanhwfa

    Llangefni

    Ynys Môn

    LL77 7EY

    Tel: 01248) 752900

    Fax: (01248) 752999

    Email: addysg@ynysmon.gov.uk

     

Mapiau

map loading, please wait

table of directions

Gwasanaeth Addysg

Park Mount
Ffordd Glanhwfa
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7EY

Ffôn: 01248) 752900
Ffacs: (01248) 752999

Diweddariad diwethaf: 8 Meh 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?