Swyddfa'r Prif Weithredwr
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Mapiau
Prif Weithredwr: Richard Parry Jones
Dirpwy Brif Weithredwr (Dros Dro): Gill Lewis
Pennaeth Gwasanaeth Polisi: Huw Jones
Pennaeth Swyddogaeth - Cyfreithiol a Gweinyddiaeth: Lynn Ball
Pennaeth Swyddogaeth - Adnoddau: gwag
Pennaeth Gwasanaeth Cyllid: Einir Thomas
Pennaeth Gwasanaeth Gwasanaethau TGCh: David Gardner
Rôl a chyfrifoldeb
- Y Prif Weithredwr yw pennaeth gweithlu’r awdurdod ac yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol yr holl Gyngor
- Y Prif Weithredwr hefyd yw Swyddog Etholiad a Swyddog Cofrestru Etholiadol y Cyngor sy’n cynnwys gweinyddu etholiadau lleol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, seneddol ac Ewropeaidd
- mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am gydgysylltu’r holl wasanaethau statudol mewn sefyllfaoedd o argyfwng yn ystod adeg rhyfel neu heddwch
- cynllun gwella a pherfformiad - paratoi Cynllun Gwella blynyddol y Cyngor a datblygu trefniadau rheoli perfformiad gan gynnwys cyfarfodydd perfformiad chwarterol a chytundebau gwella
- cyfathrebu - datblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu a rheoli cyswllt gyda’r cyfrynghau
- polisi corfforaethol - datblygu polisïau, ymgymryd ag ymchwil a darparu gwybodaeth a chefnogaeth i’r tîm rheoli ac aelodau; cydlynu cynlluniau corfforaethol, e.e Cynllun Iaith Gymraeg a’r Cynllun Cymunedol
- cefnogaeth i aelodau - darparu cefnogaeth weinyddol i Arweinydd y Cyngor ac i’r Aelodau; darparu cefnogaeth weinyddol mewn perthynas â chyfrifoldebau dinesig a seremonïol
Gwasanaethau Cyfreithiol a Gweinyddiaeth
- Swyddog Monitro - sicrhau a monitro priodoldeb yng ngweithgareddau’r Cyngor; gweithredu trefn gwyno’r Cyngor
- gwasanaethau cyfreithiol - darparu cyngor cyfreithiol corfforaethol i’r Cyngor a’i bwyllgorau
- pridiannau tir - gweinyddu cyfundrefn o gynnal chwiliadau ar adegau pan fo’n cyfnewid tir neu eiddo
- pwyllgorau - darparu cefnogaeth ysgrifenyddol i holl bwyllgorau’r Cyngor trwy baratoi rhaglenni a chofnodion cyfarfodydd a gweithredu ar benderfyniadau
- personél - datblygu a chynnal strategaeth adnoddau dynol i’r Cyngor; darparu a gweithredu strategaeth hyfforddi a datblygu corfforaethol ar draws y Cyngor; datblygu a monitro polisïau personél corfforaethol
- cyfieithu - darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i holl bwyllgorau, gweithgorau, fforymau a chyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor; cyfieithu adroddiadau a chofnodion pwyllgorau’r Cyngor ynghyd ag ystod eang o ddogfennau eraill; darparu cyngor i Adrannau’r Cyngor ar faterion dwyieithrwydd a chynnig arweiniad gyda defnydd o’r Gymraeg
- etholiadau - trefnu a darparu cyfleusterau pleidleisio i’r etholwyr mewn etholiadau lleol, cenedlaethol ac Ewropeaidd; cynnal cofrestr gyfredol o etholwyr
Cyllid
Casglu Refeniw
- Gan gynnwys y Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a Treth y Pen
- Casglu’r Dreth Gyngor ar gyfer 31,750 o aelwydydd
- Casglu’r Trethi Annomestig ar gyfer 2,950 o eiddo
- Casglu’r Dreth y Pen sy’n weddilliol
- Mân ddyledwyr - 10,000 o anfonebion bob blwyddyn
- Rheoli casglu gweddill incwm yr awdurdod
Budd-daliadau
Budd-daliadau tai a threth y Cyngor
Cyfrifo / Cyllidebau
Bydd yr Adran yn paratoi cyllidebau refeniw a chyfalaf, yn cofnodi incwm a gwariant, yn goruchwylio’r rheolaeth fydd gan y rheini sy’n dal cyllidebau dros y cyllidebau.
Cyflogau i oddeutu 3,600 o staff ac aelodau.
Cyflogau ac amcangyfrif fel a ganlyn i staff -
- 2000 o staff yn derbyn cyflog misol
- 81,000 o daliadau mewn
- 200 o staff yn derbyn cyflog pob pythefnos blwyddyn
- 1000 o staff yn derbyn cyflog wythnosol
- 40 o Gynghorwyr yn derbyn lwfans
Trwy sieciau a throsglwyddo i’r banc y gwneir y taliadau hyn ac ymdrechir yn gyson i symud tuag at ddulliau mwy economaidd o dalu.
Bydd yr Adran yn paratoi cyllidebau refeniw a chyfalaf, yn cofnodi incwm a gwariant, yn goruchwylio’r rheolaeth fydd gan y rheini sy’n dal cyllidebau dros y cyllidebau.
Taliadau i Gredydwyr
Talu dros 70,000 o anfonebion bob blwyddyn, trwy siec a throsglwyddo i’r banc. Bydd y system daliadau yn cael ei chyfuno gyda system gorfforaethol - archebu i brynu ac ymrwymiadau cyfrifo.
Rheolaeth Trysorlys
Rheoli trefniadau bancio’r Awdurdod, cynllunio symudiad a llif cyllid, benthyca a buddsoddi, sydd yn cynnwys buddsoddi arian Ymddiriedolaethau.
Rheoli Risg ac Ysiwriant
Dull o drin risgiau, gan gynnwys rheoli risg hunan gyllido rhai risgiau, a chyda risgiau eraill trefnu yswiriant allanol. Fe ddelir hefyd â cheisiadau yswiriant yn erbyn y Cyngor.
Cyngor Cyllidol a chymorth i’r Cyngor
Bydd yr Adran yn cynnig cyngor a cymorth cyllidol ar sawl lefel, o faterion cynllunio cyllideb gorfforaethol i bwyllgorau’r Cyngor i faterion eraill yn ymwneud â threfniadau gweinyddol swyddogion yr Awdurdod.
Sustemau Technoleg Gwybodaeth Corfforaethol
- strategaeth, rheolaeth a cynhaliadeth o’r seilwaith gan gynnwys rhwydweithio a teliffons
- datblygu sustemau gwybodaeth ar raddfa fechan a gwasanaeth cynnal y sustemau
- cefnogaeth deg, awtomasiwn swyddfa
- gwasanaethau’r wê




