Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cadeirydd y Cyngor 2023 i 2024


Margaret Murley Roberts


Mae’r Cynghorydd Margaret Murley Roberts wedi ei ethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2023 i 2024.

Etholwyd y Cynghorydd Glyn Haynes, sy'n cynrychioli ward Caergybi, yn Is-Gadeirydd ar gyfer 2023 i 2024.

Gweler rhagor o wybodaeth am y Cynghorydd Margaret Roberts yn cael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor yn ein eitem o Newyddion.

 

 

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

  • Cawsom gyfle i ddathlu dydd Gwyl Dewi yr wythnos diwethaf, a hoffwn ddiolch i Menter Môn am drefnu gorymdeithiau i nodi’r achlysur. Cefais y fraint o fynychu gorymdaith Llangefni a braf oedd gweld cymaint o blant ysgol ifanc lleol yn dathlu eu Cymreictod.
  • Bu ysgolion y Sir yn dathlu Dydd Gwyl Dewi hefyd. Cafodd Ysgol Henblas neges fideo arbennig iawn gan Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mererid Hopwood. Bu’r plant yn dysgu am farddoniaeth ac yn codi arian ar gyfer yr ysgol. Mae’r neges ar gyfrif Twitter yr ysgol yn werth ei gweld. Da iawn i holl ysgolion yr Ynys ar eu dathliadau.
  • Cynhaliwyd Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn Llandudno dros y penwythnos a daeth Côr ieuenctid Môn yn gyntaf yng nghategori Corau Sioe ac yn ail yn y categori Lleisiau ifanc. Da iawn nhw.
  • Llongyfarchiadau i Mr Tom Bown o Lanerchymedd. Mae Mr Bown wedi bod yn mesur glawiad pob diwrnod ers 1948 ac mae’n parhau traddodiad teuluol a gychwynnodd gyda’i daid. Cafodd ei anrhydeddu am ei wasanaeth yn ddiweddar gan y Swyddfa Dywydd a Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Llongyfarchiadau i Peter Jones, o Ynys Môn, sydd wedi ei anrhydeddu gyda MBE yn dilyn cydnabyddiaeth am ein wasanaeth tuag at dir mawn Cymru. Mr Jones yw uwch ymgynghorydd arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ecosystemau mawn ar draws Gymru.
  • Pob lwc i siop sglodion Finney's Benllech sydd wedi cyrraedd rownd derfynol categori 'Tec-awe y Flwyddyn' yng ngwobrau cenedlaethol y National Federation of Fish Fryers. Rhain yw gwobrau mwyaf mawreddog y diwydiant. Pob lwc i’r busnes lleol yma!
  • Aros yn y byd bwyd, hoffwn longyfarch Tomos Parry - sydd yn wreiddiol o Ynys Môn - am ennill ei ail seren Michelin. Enillodd ei seren gyntaf nôl yn 2018 am ei fwyty Brat yn Llundain, ac mae nawr wedi llwyddo i ennill ail seren gyda'i fwyty newydd ‘Mountain’ - a hynny ar ôl bod ar agor am chwe mis yn unig. Mae Tomos yn parhau i ddefnyddio cynnyrch Cymreig yn ei fwytai, ac yn cynnwys yr iaith Gymraeg yn ei fwydlenni.
  • Troi i fyd chwaraeon nesaf a llongyfarchiadau mawr i’r athletwraig ifanc Eli Jones ar ddod yn bencampwr dan 20 Cymru ar y 60 medr a’r 200 medr dan do.
  • Llongyfarchiadau hefyd i Meinir Thomas, o Langefni, sydd wedi ei dewis ar gyfer carfan hoci dros 55 oed Meistri Cymru unwaith yn rhagor. Bydd yn cystadlu mewn tair cystadleuaeth - sef Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref yn Nottingham, cystadleuaeth pedwar gwlad yn yr Almaen, a Chwpan y Byd yn Seland Newydd ym mis Tachwedd.
  • Ar nodyn trist i gloi, fel y gwyddoch chi, bu farw’r cyn gynghorydd Vaughan Hughes yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bu’n gynghorydd sir am ddeng mlynedd a chyn hynny, roedd yn ddarlledwr adnabyddus, yn gyflwynydd ac yn gynhyrchydd teledu. Bu hefyd yn golygu cylchgrawn Barn hyd at ei farwolaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd ym Môn ac roedd yn frwd dros yr Ynys. Bydd yn gadael gwaddol sylweddol ar ei ôl.
  • Dymunaf gydymdeimlo hefyd gyda theulu Iolo Trefri Owen a fu farw’n ddiweddar. Roedd yn amaethyddwr o fri ac yn ddyn busnes arloesol. Cafodd y fraint yn 2021 o agor Ffair Aeaf Mon fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad enfawr i’r byd amaeth ar yr Ynys. Bydd colled mawr ar ei ôl.
  • Roeddem hefyd yn drist iawn o glywed am farwolaeth Bethan James a oedd yn ymgynghorydd ar ran GwE ac a fynychodd gyfarfodydd CYSAG y Cyngor. Bu farw’n gynamserol ar ddechrau'r flwyddyn.

Yn yr un modd, rydym fel Cyngor yn dymuno cydymdeimlo gydag unrhyw aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch i ddangos parch.

Yn gyntaf hoffwn ddiolch i staff y gwasanaethau argyfwng am eu gwaith yn gwarchod trigolion Ynys Môn drwy’r flwyddyn a gwelwyd enghraifft o hynny nol Sul gyda’r tân ar ffordd glanhwfa. Mae’n drueni mawr bod difrod sylweddol wedi ei achosi i adeilad hanesyddol yr hen Gyngor bwrdeistref. Er hynny, rydym yn ddiolchgar nad oedd unrhyw anafiadau.

Llongyfarchiadau mawr i Paul Woodhouse, Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Caergybi ac i Liah Williams, Ysgol Pencarnisiog ar eu llwyddiant yng ngwobrau addysg gogledd Cymru 2023. Enillodd Paul wobr athro uwchradd y flwyddyn ac enillodd Liah wobr cymhorthydd y flwyddyn. Clod mawr i’r ddau ohonynt.

Llongyfarchiadau hefyd i’r heddwas Lisa Thomas ac i Angharad Jones o Wasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ar ôl i’w gwaith yn taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol ar Ynys Môn gael ei gydnabod yng ngwobrau Partneriaethau Datrys Problemau Heddlu Gogledd Cymru.

Derbyniodd Rhaglen Gymunedol Ynys Môn ganmoliaeth hefyd yn ddiweddar yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel i Gymru am yr effaith bositif a gafodd ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn trefi ar draws yr Ynys. Enillodd wobr yn y categori “Partneriaeth” am y ffordd gynhwysol yr oedd yn hyrwyddo diogelwch cymunedol.

Llongyfarchiadau i Mrs Annwen Morgan sydd wedi cychwyn ar ei gwaith fel cadeirydd newydd Fforwm Iaith Ynys Môn. Cyn brif weithredwr y Cyngor Sir, wrth gwrs, mae Annwen yn edrych ymlaen at gefnogi ac arwain y Fforwm sy’n gweithio i gynnal a datblygu’r Gymraeg ar Ynys Môn. Dymuniadau gorau iddi.

Cynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol Oed-Gyfeillgar yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd. Bu Sioned Young, Swyddog Datblygu Cymunedol Oed-Gyfeillgar Ynys Môn yn annerch ynghyd â Brenda Roberts, Cadeirydd Cyngor yr Henoed ar yr Ynys.

Troi at chwaraeon ac mae’n bleser tynnu sylw at dim pêl-rwyd merched Ynys Môn a fu’n cystadlu mewn twrnament ynysoedd yn Ynys Manaw yn ddiweddar. Ar ôl cystadlu’n frwd drwy’r gystadleuaeth llwyddodd tîm Môn drechu Guernsey yn eu gem olaf. Da iawn nhw!

Mae un o aelodau staff y Cyngor newydd ryddhau ei sengl Nadolig cyntaf – 'Amser yr Ŵyl'. Mae Dafydd Jones o’r Adain Budd-daliadau eisoes wedi perfformio ei sengl newydd ar raglen Heno ar S4C ac yn edrych ‘mlaen i bobl glywed y gân.

Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn Ffair Aeaf Frenhinol 2023. Hoffwn ymestyn llongyfarchiadau arbennig i Tony a Iona Ponsonby, sydd yn denantiaid ar un o ffermydd y Cyngor a braf oedd gweld llwyddiannau Ffermwyr Ifanc Môn yn y Sioe Aeaf.

Llongyfarchiadau hefyd i’r Ffermwyr Ifanc am gynnal yr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cenedlaethol ym Mona. Braf oedd gweld y pafiliwn dan ei sang.

Ar nodyn Nadoligaidd, hoffwn ganmol cyfraniad trigolion Môn sydd wedi dod at ei gilydd i gynnal gweithgareddau cymunedol yn ystod mis Rhagfyr. Diolch i’r holl wirfoddolwyr am ledaenu ysbryd yr ŵyl yn ein trefi a phentrefi, a diolch i’r holl staff ysgol a’r plant a phobl ifanc sydd wedi paratoi cyngherddau a sioeau Nadolig ar draws yr Ynys. Hoffwn ddiolch ymlaen llaw hefyd i’r rhai hynny o staff y Cyngor a fydd yn gweithio dros yr ŵyl i gynnal gwasanaethau allweddol.

Yn olaf, mae cyfnod y Nadolig yn gallu bod yn anodd iawn i rai teuluoedd sy’n wynebu amgylchiadau heriol, salwch neu brofedigaeth. Rydym fel Cyngor yn dymuno cydymdeimlo gydag aelodau a swyddogion sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch i ddangos parch.

Yn gyntaf, hoffwn longyfarch pawb oedd yn cystadlu yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Môn dros y penwythnos diwethaf ar Gae Sioe Mona. Deallaf ei bod yn Eisteddfod lwyddiannus iawn a chafwyd llawer o hwyl.

Llongyfarchiadau mawr i'r rapiwr Ren Gill sydd wedi goresgyn cyfnod hir o salwch i ddod i frig siartiau Prydain gyda'i ail albwm. Mae Ren yn dod o Ddwyran yn wreiddiol ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol David Hughes.

Pob lwc i Ioan Rhun Jones o Lanfairpwll a fydd yn dringo rhan o Everest ym mis Mawrth er cof am ei dad ac i godi arian ar gyfer yr elusen iechyd mewn ‘Shout’. Dymunwn yn dda i Ioan.

Llongyfarchiadau i dîm maethu Cyngor Môn ar ennill gwobr yn cydnabod eu cyfraniad rhagorol i ofal maeth. Bu canmol i’r gefnogaeth a roddodd y Tîm i ofalwyr maeth ar yr Ynys a’r berthynas agos gyda Chymdeithas Gofal Maeth Ynys Môn.

Llongyfarchiadau i’r darlledwr Hywel Gwynfryn ar ennill Gwobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau BAFTA Cymru yn ddiweddar am ei gyfraniad eithriadol at ddarlledu. Yn wreiddiol o Langefni, mae wedi bod yn llysgennad balch iawn dros Ynys Môn drwy gydol ei yrfa.

Llongyfarchiadau i George North am greu hanes wrth ddod y Cymro cyntaf i ymddangos yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd ar bedwar achlysur gwahanol.

Llongyfarchiadau i Glwb Pêl-droed Tref Amlwch ar ennill pencampwriaeth Pêl-droed Cerdded Cymru i bobl dros 50 oed; a phob lwc i dîm pel-rwyd Ynys Môn a fydd yn cystadlu yn erbyn ynysoedd eraill yn Ynys Manaw mis nesaf.

Pob lwc hefyd i'r holl unigolion a thimau sydd wedi eu henwebu am wobr yn noson wobrwyo Môn Actif 2023. Mae'r seremoni yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Biwmaris heno.

Diolch i Haydn Edwards am ei wasanaeth dros gyfnod o chwe blynedd yn cadeirio Fforwm Iaith Ynys Mon. O dan ei arweiniad datblygodd y Fforwm i fod yn llais awdurdodol ar y Gymraeg ar yr Ynys ac erbyn hyn mae dros deg ar hugain o fudiadau yn rhan o’r gwaith.

Hoffwn ddiolch hefyd i’r Parchedig Dr Dafydd Wyn William am ei waith diflino fel Gweinidog ar gapel y Noddfa yng Nghaergybi am 30 mlynedd ac am ei waith fel hanesydd lleol sydd wedi arwain at gyhoeddi dros 40 o lyfrau a nifer fawr o erthyglau.

Yn olaf, gwelwyd ymladd cynyddol yn y dwyrain canol dros y dyddiau diwethaf. Rydym wedi gweld a chlywed yr adroddiadau newyddion am ba mor argyfyngus ydi’r sefyllfa ac mae ein meddyliau i gyd gyda’r plant a’r bobl gyffredin sy’n dioddef yn sgil yr ymladd.

Ar nodyn trist arall, dymunaf estyn ein cydymdeimlad i deulu’r Parchedig Emlyn Richards a fu farw ym mis Awst. Roedd yn weinidog yn ardal Cemaes ers 1964 ac wedi cyhoeddi sawl cyfrol ar hanes Môn. Dymunaf hefyd estyn ein cydymdeimlad i’r Cyng. Robert Llewelyn Jones ar golli ei chwaer yng nghyfraith.

Yn yr un modd, rydym fel Cyngor yn dymuno cydymdeimlo gydag unrhyw aelod o staff sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar. Gofynnaf felly i’r rhai sy’n bresennol yn y Siambr, ac sy’n abl i wneud, i sefyll os gwelwch yn dda am funud o dawelwch i ddangos parch.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:-

  • Llongyfarchiadau i holl aelodau ffermwyr ifanc Môn a fu’n cystadlu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
  • Llongyfarchiadau mawr hefyd i’r rhai a fu’n arddangos eu hanifeiliaid a’u cynnyrch yn y Sioe Fawr ac i Mr Richard Roberts o gwmni amaethyddol Emyr Evans am dderbyn gwobr am wasanaeth hir i'r cwmni.
  • Llongyfarchiadau i bawb o’r Ynys a gymerodd ran yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn ym mis Awst ac yn enwedig i Gôr Ieuenctid Môn, dan arweiniad Mrs Mari Pritchard, a enillodd dri o brif wobrau corawl yr Eisteddfod.
  • Llongyfarchiadau hefyd i’r rhai â chysylltiadau ag Ynys Môn a gafodd eu hurddo i’r orsedd eleni.
  • Llongyfarchiadau i Ms Alison Cairns o Lannerch-y-medd am ennill y wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod.
  • Cyfeiriodd y Cadeirydd at lwyddiant Sioe Môn eto eleni. Mynegodd ei diolch i’r Gymdeithas Amaethyddol ac i bawb a gefnogodd y sioe. Diolchodd hefyd i bawb fu ynghlwm â’r gwaith o drefnu pafiliwn y Cyngor yn y sioe.
  • Dywedodd y Cadeirydd bod Ynys Môn wedi cael ei derbyn yn ddiweddar fel aelod swyddogol o Rwydwaith Byd-eang Cymunedau Oed-Gyfeillgar, Sefydliad Iechyd y Byd. Fel aelod newydd o'r rhwydwaith, mae’r Ynys yn rhan o symudiad byd-eang sydd yn ceisio creu cymunedau ble gall bawb edrych ymlaen at heneiddio’n dda ynddynt. Mynegodd ei diolch i Lywodraeth Cymru a Thîm Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am y gefnogaeth yn ystod y daith; Fforwm Pobl Hŷn Ynys Môn; y Cynghorydd Gwilym Jones ein Pencampwr Oed-Gyfeillgar; a staff a phartneriaid y Cyngor am eu gwaith caled.
  • Llongyfarchiadau i Dîm Maethu Môn sydd wedi ennill dwy wobr gan FosteringNetwork Prydain. Enillodd dau o ofalwyr maeth yr Awdurdod y wobr KinshipCarers tra bod y Tîm Maethu wedi ennill y wobr ar gyfer Tîm Gweithwyr Cymdeithasol.
  • Llongyfarchiadau mawr i Mrs Mary Davies sydd wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth anrhydeddus fel Ymdriniwr Galwadau gyda British Telecom a’r Gwasanaethau Brys (999).
  • Llongyfarchiadau mawr i staff y Gwasanaeth Archifau, dan arweiniad Ms Kelly Parry, ar eu llwyddiant diweddar. Mae'r tîm wedi gweithio'n hynod o galed ar gyfer asesiad diweddar ac wedi sicrhau eu bod yn cadw’r statws fel Archifdy Achrededig
  • Llongyfarchiadau i’r holl bobl ifanc sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau eleni. Diolchodd y Cadeirydd i’r athrawon a’r staff yn ein hysgolion yn ogystal am gefnogi’r bobl ifanc yn ystod eu taith addysgol.

Digwyddiadau wedi eu mynychu