Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Arweinydd y cyngor


Ar 31 Mai 2022, cadarnhaodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, aelodaeth ei Phwyllgor Gwaith.

Mae datblygu’r economi a thai lleol, darparu plant a phobl ifanc â’r cyfleodd gorau, cefnogi teuluoedd a chymunedau a bodloni targedau Sero Net ymysg blaenoriaethau’r tîm newydd.

Mae’r Pwyllgor Gwaith yn cynnwys saith aelod o Blaid Cymru sy’n arwain y Cyngor o dan arweiniad y Cynghorydd Llinos Medi a dau aelod o bartneriaid y glymblaid, Y Grŵp Annibynnol, o dan arweiniad y Cynghorydd Ieuan Williams.

Fel Arweinydd, bydd y Cynghorydd Llinos Medi yn canolbwyntio ar gynrychioli Ynys Môn ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys ei rôl gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a chyfrifoldebau eraill yn ymwneud a chynllunio a thrafnidiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Medi, “Bydd tymor nesaf y cyngor (pum mlynedd) yn dod â heriau sylweddol wrth i ni weithio i amddiffyn ein gwasanaethau a darparu Cynllun Cyngor newydd uchelgeisiol ar ran pobl Ynys Môn. Rhaid i ni hefyd gefnogi teuluoedd mewn angen, yn enwedig wrth i gostau byw gynyddu, a pharhau â threfniadau er mwyn sicrhau bod ein cymunedau yn elwa o gyfleoedd economaidd.”

“Bydd bodloni’r her o ddarparu tai addas i drigolion lleol a chefnogi prynwyr tro cyntaf hefyd yn flaenoriaeth, ynghyd â darparu plant a phobl ifanc â’r cyfleoedd addysg gorau posibl a bodloni ein targedau Sero Net uchelgeisiol.”

Mae ymrwymiad y cyngor i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 yn cael ei adlewyrchu mewn portffolio Pwyllgor Gwaith wrth i’r Cynghorydd Nicola Roberts gymryd cyfrifoldeb am faterion Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Medi, “Fel grŵp Plaid Cymru sy’n arwain, sy’n gweithio mewn clymblaid, rydym am weld sefydlogrwydd yn parhau ac am arwain cyngor modern sy’n perfformio’n dda ym marn ein trigolion, partneriaid a rheoleiddwyr. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gan ein Hynys lais cryd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.”

“Rydw i o’r farn bod gennym dîm rhagorol, yn cyfuno profiad helaeth a syniadau newydd, ar Bwyllgor Gwaith fydd yn symud y cyngor sir yn ei flaen.”

Rhagor o wybodaeth am y Cynghorydd Llinos Medi

Gweler tudalen Cynghorydd Llinos Medi o dan 'Eich cynghorwyr'.