Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Lwfansau cynghorwyr


Mae taliadau i aelodau, yn cynnwys aelodau cyfetholedig, yn cael eu pennu gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Cyhoeddir rhestr o daliadau i aelodau etholedig yn flynyddol

Mae’r cynllun llawn ar gael fel rhan 6 o Gyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn. Ceir crynodeb isod er mwyn cynorthwyo i egluro’r tablau.

Mae cyflogau sylfaenol yn cael eu talu i gynghorwyr pob mis i gydnabod y gwaith mae pob cynghorydd yn ei wneud yn y rôl honno.

Telir uwch gyflogau a chyflogau sifig i gynghorwyr sydd â chyfrifoldebau ychwanegol oherwydd y swyddi a ddelir ganddynt - er enghraifft, fel aelod o’r Pwyllgor Gwaith neu gadeirydd pwyllgor - ac sy’n galw am fwy o’u hamser ac ymroddiad.

Mae uchafswm o un ar bymtheg ar y nifer o uwch gyflogau a chyflogau sifig ar unrhyw amser. Mae’r cyflog sylfaenol wedi’i gynnwys ym mhob uwch gyflog a chyflog sifig.

Mae cyfraniadau tuag at gostau gofal a chymorth personol wedi’u bwriadu i alluogi unrhyw un y byddai eu cyfrifoldebau fel gofalwr yn cyfyngu ar eu gallu i gyfranogi fel aelod o awdurdod i gyflawni ei rôl, neu roi cymorth gofal i aelod er mwyn galluogi’r unigolyn hwnnw i gyflawni ei rôl.

Gellir gwneud hawliad mewn perthynas â dibynnydd o dan 16 mlwydd oed neu berson ifanc dan oed neu oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda’r aelod fel rhan o’i deulu ac na ellir eu gadael heb oruchwyliaeth

O ran anghenion gofal neu gymorth yr aelod ei hun, gellir hawlio ad-daliad pan nad yw’r cymorth a/neu gost unrhyw anghenion ychwanegol ar gael gan yr awdurdod, neu pan nad yw’r awdurdod yn talu’n uniongyrchol amdanynt, megis Mynediad i Waith, Taliadau Personol, Yswiriant. Gallai’r rhain ddod i’r amlwg pan fo’r anghenion yn rhai diweddar a/neu dros dro.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â: cydraddoldeb@ynysmon.llyw.cymru

Treuliau a hawlir am aros dros nos neu brydau allan o’r cartref pan ar fusnes y cyngor.

Telir hwn yn bennaf fel cyfradd fesul milltir ar gyfer teithio mewn car ar fusnes y cyngor.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy’n gosod taliadau i gynghorwyr.

Rydym yn cyhoeddi rhestr o daliadau bob blwyddyn.  Ewch i ‘Datganiad o Daliadau a Wnaed i Aelodau’ o dan ‘Dogfennau i’w lawrlwytho’ i weld faint a dalwyd i bob cynghorydd. 

I gael gweld beth mae pob cynghorydd â hawl iddo, ewch i ‘Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau’ o dan ‘Dogfennau i’w lawrlwytho’ isod.

Mae’r tablau yn dangos y symiau a delir yn uniongyrchol i gynghorwyr yn ystod y flwyddyn. Telir y cyflogau sylfaenol, yr uwch gyflogau a’r cyflogau sifig yn awtomatig i’r rhai hynny sydd yn gymwys i’w derbyn, ond mae gan gynghorwyr yr hawl i ildio’r cyflog, neu ran ohono, pe baent yn dymuno.

Mae rhaid hawlio’r lwfansau eraill, yn bennaf yn fisol. Weithiau, er enghraifft ar gyfer siwrneiau trên, mae’n fwy cyfleus i’r cyngor dalu’r gost yn uniongyrchol i’r darparwr gwasanaeth, ac ni chynhwysir y treuliau hynny yma.

Archif: Rhestrau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau a Datganiadau o daliadau a wnaed i aelodau