Diogelu data a rhyddid i wybodaeth
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Beth yw eich hawl gyfreithiol gyffredinol i gael mynediad i wybodaeth mae’r cyngor yn ei chadw?
O 1 Ionawr, 2005 ddaeth Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG) a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (RhGA) i rym. Mae’r rhain yn rhoi i unigolion a sefydliadau hawl gyfreithiol gyffredinol i gael mynediad i wybodaeth y mae’r cyngor yn ei chadw.
Mae llawer o wybodaeth ar gael yn barod ac mae llawer ohono ar ein gwefan. Bydd ein Cynllun Cyhoeddi yn eich cynorthwyo i ddod i hyd i’r wybodaeth rydych angen. Mae’n arweinlyfr i’r fath o wybodaeth rydym yn cyhoeddi fel arferol, y fformat a gyhoeddir a faint fydd yn costio os oes unrhyw dâl. O bosib bydd y rhestr A - Y o gymorth i ddarganfod pa wasanaethau mae’r cyngor yn darparu.
Gellir gofyn am wybodaeth sydd ddim wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi drwy gysylltu â ni yn ysgrifenedig (gan gynnwys ebyst a ffacs)
Wrth ofyn neu gyflwyno cais am wybodaeth nodwch, mewn ysgrifen y manylion a ganlyn os gwelwch yn dda:-
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhif ffôn yn ystod y dydd, ebost
- y wybodaeth neu’r dogfennau y mae arnoch eu hangen (Os mae’r gwybodaeth yn y Cynllun Cyhoeddi dyfynnwch rif cyfeirnod y cyhoeddiad os gwelwch yn dda)
- ym mha fodd neu ddull yr hoffech gael y wybodaeth, un ai copi papur neu e-bost etc
- os dangosir codiad yn erbyn cyhoeddiad amgaewch eich taliad, os gwelwch yn dda, gydag eich cais.
Os gwneir cais, mae rhaid cael eich hysbysu:
- os mae’r wybodaeth gan y cyngor; ac
- os oes ganddi (ac nid yw’n eithriedig), mae rhaid i’r wybodaeth gael ei rhoi i chi o fewn ugain niwrnod gwaith.
Gallwch gyflwyno ceisiadau am wybodaeth i’r adran berthnasol yn uniongyrchol. Os nad ydych yn gwybod yr adran gellir gwneud ymholiadau cyffredinol ynglyn â’r cynllun cyhoeddi, neu geisiadau am wybodaeth, oddi wrth y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol, Gwasanaethau Cyfreithiol a Phwyllgorau.
Cynllun Cyhoeddi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoddi’r rhyddid i’r cyhoedd yn gyffredinol weld pob math o wybodaeth gofnodedig sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth: ffurflen cais i weld gwybodaeth
Pennir y mathau o wybodaeth eithredig gan y Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheolau Gwybodaeth Amgylcheddol; mae enghreifftiau yn cynnwys gwybodaeth sy’n cynnwys data personol pobl eraill a gwybodaeth a fyddai atal y sefydliad rhag masnachu’n gywir.
Mynediad i wybodaeth: cwynion
Petaech yn teimlo nad yw Cyngor Sir Ynys Môn wedi delio gyda’ch cais yn deg yna gofynnir i chi ddilyn Gweithdrefn Gwynion Cyngor Sir Ynys Môn.
Menter Twyll Genedlaethol
Mae’n ofynnol i’r awdurdod hwn yn unol â’r gyfraith ddiogelu’r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Caiff rannu gwybodaeth a roddir iddo â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.




