Y Cynllun Cyhoeddi
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y ddeddf) yn rhoddi’r rhyddid i’r cyhoedd yn gyffredinol weld pob math o wybodaeth gofnodedig sy’n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Sir Ynys Môn. Ynddi nodir beth yw’r eithriadau i’r hawl ac mae’n rhoddi nifer o gyfrifoldebau a dyletswyddau i’r cyngor sir.
Pwrpas y Cynllun Cyhoeddi yw sicrhau bod gwybodaeth sylweddol ar gael, heb orfod gofyn yn benodol am weld y wybodaeth. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, trwy’r cynllun hwn, yn rhoddi anogaeth gyhoeddi rhagor o wybodaeth nag sy’n angenrheidiol dan y ddeddfwriaeth bresennol a datblygu diwylliant mwy agored.
Yn y Cynllun Cyhoeddi nodir:
categorïau’r wybodaeth y bydd y cyngor yn ei chyhoeddi ac y bwriada ei chyhoeddi;
ym mha ddull y cyhoeddir neu y bwriedir cyhoeddi pob categori o wybodaeth;
- a fydd y deunydd neu a fwriedir i’r deunydd hwnnw fod ar gael i’r cyhoedd yn ddi-dâl neu am dâl.
Roedd rhaid i’r cyngor weithredu ar Gynllun Cyhoeddi o fis Chwefror 2003 ymlaen, ond mae’r hawl gyffredinol i weld pob math o wybodaeth gofnodedig sy’n cael ei ddal gan awdurdodau cyhoeddus wedi dod i rym ers Ionawr 2005.
Allwedd i’r categoriau
Defnyddir yr allwedd a ganlyn i bob categori o wybodaeth i nodi amryfal agweddau ar y wybodaeth gan gynnwys ym mha ffyrdd y mae’r wybodaeth ar gael.
PP - Papur
TG - Rhyngrwyd
TP - Ar gael drwy’r post
CL - Clywedol
FD - Fideo
AI - Archwiliad yn unig
Beth yw'r Cynllun Cyhoeddi
Defnyddio'r Cynllun Cyhoeddi
Cynllun Cyhoeddi: amlinelliad o Gyngor Sir Ynys Môn
Cynllun Cyhoeddi: sut i'w gael mewn gwahanol fformat
Cynllun Cyhoeddi: prisiau
Problemau gyda chynnwys neu sylwadau ar gynnwys y Cynllun Cyhoeddi
Ymateb i'r Cynllun Cyhoeddi
Datbygiad dyfodol y Cynllun Cyhoeddi




