Cyngor Sir Ynys Môn a'r Menter Twyll Genedlaethol
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Mae’n ofynnol i’r awdurdod hwn yn unol â’r gyfraith ddiogelu’r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Caiff rannu gwybodaeth a roddir iddo â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n penodi’r archwilydd i archwilio cyfrifon yr awdurdod hwn. Mae hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data.
Mae prosesau paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadurol eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall. Gwybodaeth bersonol yw’r data fel arfer. Mae prosesau paru data cyfrifiadurol yn ei gwneud yn bosibl adnabod ceisiadau a thaliadau twyllodrus. Pan gaiff data ei baru mae’n dynodi bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir tybio a oes achos o dwyll, gwall neu esboniad arall hyd nes y cynhelir ymchwiliad.
Ar hyn o bryd mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod hwn ddarparu gwybodaeth sydd ganddo at y diben hwn. Mae’n ofynnol i ni roi setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol i’w paru ar gyfer pob ymarfer, a nodir y rhain yn llawlyfrau’r Archwilydd Cyffredinol, y gellir eu gweld yn http://www.wao.gov.uk/cymraeg/whatwedo/1252.asp
Defnyddir data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarfer paru data ag awdurdod statudol fel rhan o’i bwerau yn Rhan 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 1998. Nid oes angen caniatâd yr unigolion perthnasol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae prosesau paru data’r Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Mae ar gael yn www.wao.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau pam mae’n paru gwybodaeth benodol, ewch i http://www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp neu cysylltwch â Katrina Febry, Cydgysylltydd y Fenter Twyll Genedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ, 029 2032 0616 neu anfonwch e-bost at infoofficer@wales.gov.uk.




