Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

MapMÔN


Mae ein adain fapio yn cynnig amrediad eang o wybodaeth mewn perthynas â’ch cyfeiriad a’r ardal o’ch cwmpas. 

mapmon logo

Mae gan system MapMÔN 3 o dabiau, sef ‘Fy Nhŷ’, ‘Agosaf i mi’ a ‘Mapiau’.

Fy Nhŷ

Gan ddefnyddio’r tab Fy Nhŷ a rhoi rhif, enw a chôd post eu cartref i mewn, gallwch weld eich cartref ar fap a manylion eich eiddo.

Gallwch weld manylion am eich Aelodau Lleol, eich Aelod Seneddol a’ch Aelod o'r Senedd, yn ogystal ag ysgolion sy’n agos i’ch cartref a manylion y dalgylch.

Agosaf i mi

Mae’r tab hwn yn rhoi gwybodaeth am ysgolion a cheisiadau cynllunio sydd o fewn 50m i’ch cartref.

Fy Mapiau

Mae Fy Mapiau, yn cyflwyno ystod eang o opsiynau i chi o ran y wybodaeth sydd ar gael i chi ei gweld, megis ceisiadau cynllunio, ystadegau gan yr Heddlu ynghylch troseddau, mynediad i’r cefn gwlad yn ogystal â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.