Cynllun Busnes Corfforaethol
Yn y cynllun hwn, nodir rhaglen waith lefel uchel y Cyngor am y flwyddyn i ddod ynghyd â manylion am nifer o amcanion gwella a bennwyd.
Mae’r rhain yn adeiladu ar y blaenoriaethau a amlinellwyd yng nghynllun y llynedd ac ar y pwyslais sy’n parhau i gael ei roi ar ddarparu gwasanaethau o safon i drigolion.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cynhyrchu Cynllun Gwella pob blwyddyn sy’n rhoi manylion am yr hyn y mae’r Cyngor wedi ei gyflawni dros y flwyddyn gynt. Mae’r Cynllun Gwella yn adrodd yn ôl ar berfformiad a chynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun ‘edrych ymlaen’.




