Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Strategaeth Gwrth Dlodi


Mae’r angen am Strategaeth Gwrth Dlodi wedi ei adnabod fel blaenoriaeth ar gyfer rhaglen waith yr Uned Strategol, Gwasanaethau Tai yn 2017-18 ac yn cael ei yrru ymlaen gan y Cynllun Corfforaethol,

2017-22 sydd yn nodi’r angen i:

  • Greu’r amodau fydd yn galluogi pawb i gyflawni eu potensial tymor hir
  • Gefnogi oedolion a theuluoedd bregus a’u cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosibl
  • Weithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau i’w galluogi i ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau wrth warchod ein hamgylchedd naturiol

Mewn ymateb i’r uchod mae’r strategaeth yn cael ei gyflwyno er mwyn:

  • Cael cytundeb ar ddiffiniad o dlodi yn gorfforaethol
  • Codi ymwybyddiaeth a gosod gwaelodlin o weithgaredd gwasanaethau a phartneriaid
  • Datblygu dull o fesur effaith gwasanaethau a’r daclo tlodi o fewn ein cymunedau
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.