Cynllun Grant Toiledau Cymunedol
A fyddech chi’n fodlon agor toiledau eich busnes i’r cyhoedd? Os felly, gallech dderbyn swm o hyd at £500 am ymuno gyda Chynllun Toiledau Cymunedol newydd y cyngor.

Dan Gynllun Grant Toiledau Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae angen i awdurdodau lleol a busnesau lleol megis tai tafarn, swyddfeydd post a siopau, weithio ynghyd i ddarparu toiledau glanach, diogelach a hwylusach ar gyfer y cyhoedd.
Sut mae’r Cynllun Grant Toiledau Cymunedol yn gweithio?
Mae’r Cynllun Toiledau Cymunedol yn fodd i fusnesau lleol megis tai tafarn, tai bwyta a siopau weithio gyda’r cyngor i sicrhau bod toiledau glanach, diogelach a hwylusach ar gael i’r cyhoedd.
Gwelwch restr o’r adeiladau sy’n rhan o’r Cynllun Toiledau Cymunedol
Gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio’r toiledau yn ystod oriau agor yr adeiladau heb orfod prynu dim. Mewn amgylchiadau eithriadol, mae gan fusnesau’r hawl i wrthod mynediad.
Bydd raid i adeiladau sy’n rhan o’r cynllun gadw eu toiledau’n ddiogel, yn lân, yn hwylus ac â chyflenwad digonol o stoc. Yn gyfnewid am hyn, bydd busnesau a sefydliadau’n derbyn hyd at £500 am fod yn rhan o’r cynllun.
Beth yw’r manteision i’r busnesau a’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y cynllun?
Cyhoeddusrwydd da – bydd y cyngor yn hyrwyddo eich cyfleuster chi fel lleoliad toiled cymunedol.
Gallai’ch busnes elwa ar yr ymweliadau oherwydd bydd mwy o bobl yn dod i mewn i’r adeilad ac efallai’n prynu rhywbeth neu’n defnyddio eich gwasanaeth.
Bydd busnesau a gânt eu cymeradwyo yn derbyn hyd at £500 am ymuno gyda’r Cynllun Toiledau Cymunedol.
Sut fedra i ymgeisio?
Cysylltu gyda’r Adain Rheoli Gwastraff i ofyn am ffurflen gais (dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen). Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer derbyn ffurflenni cais. Fodd bynnag, nodwch y bydd grantiau’n cael eu rhannu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu. Pe bai i’r dyraniad gyrraedd y nifer llawn o 35 busnes, bydd eich manylion yn cael eu rhoi ar restr aros er mwyn cymeryd rhan yn y cynllun y flwyddyn ganlynol, os bydd arian ar gael.
Beth sy’n digwydd nesa?
Ar ôl llenwi a chyflwyno eich ffurflen gais ac os byddwch yn llwyddiannus, bydd swyddog o’r cyngor, fel y cam nesaf yn y broses ymgeisio, yn ymweld â chi i gael golwg ar y toiled(au) yr ydych yn bwriadu iddo(iddynt) fod yn rhan o’r cynllun ac i drafod eich cynigion yn fanylach, ee oriau agor ac ati. Yn dilyn yr ymweliad, cewch lythyr yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr asesiad. Os byddwch yn llwyddo, bydd y cyngor yn cynnig taliad i chi yn ffurfiol ac yn nodi unrhyw delerau ac amodau pellach y cytunwyd arnynt.




