Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun caniatâd: Canolfannau ailgylchu gwastraff domestig (CAGD)


Ni fydd angen i drigolion Ynys Môn logi slot ymlaen llaw er mwyn defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref Penhesgyn.

Rhaid archebu ymlaen llaw ar gyfer unrhyw ymweliad â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref  Gwalchmai.

Mae amodau'n berthnasol a allai effeithio ar ddeiliaid trwyddedau.

Cerbydau sydd angen trwydded

Byddwch angen caniatâd i ymweld â CAGD gyda’r cerbydau canlynol:

  • ‘pickup’
  • fan fechan
  • fan fechan ar gyfer cludo nwyddau (o fath ‘transit’)
  • minibws bychan neu gar preifat gyda threlar o faint canolig rhwng 1.8m a 3m o hyd
  • cerbyd gydag arwydd arno

Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5m na’n uwch na 2.1m yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.

Gwiriwch gyda'r Tîm Rheoli Gwastraff ar (01248) 750 057 os ydych chi'n ansicr.

Cerbydau nad oes angen trwydded arnynt

Nid ydych angen caniatâd i ymweld a un o’n safleoedd gyda:

  • char preifat
  • car stad
  • cerbyd cario pobl
  • 4x4 heb gaban cludo nwyddau

Bydd yn rhaid i bob cerbyd fod yn ddim hirach na 5m na’n uwch na 2.1m yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol. 

Ffurflen gais

Cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd i swyddfeydd y cyngor yn Llangefni neu drwy ebost i gwastraff@ynysmon.llyw.cymru.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

Ni chaniateir mynediad i unrhyw un o’r safleoedd hyn i unrhyw gerbyd sy’n hirach na 5m neu’n uwch na 2.1m yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol.

Ni ellir defnyddio’r cerbydau canlynol i ddefnyddio’r safleoedd:

  • Faniau o fath bocs Luton
  • faniau mwy ar gyfer cludo nwyddau (o fath ‘transit’)
  • lorïau gyda chefn agored, gwastad, neu lorïau y mae eu cefnau’n codi i ollwng gwastraff
  • tractorau
  • unrhyw gerbydau amaethyddol
  • cerbydau cludo ceffylau
  • unrhyw drelar sy’n hirach na 3m

Ni all y safleoedd dderbyn gwastraff masnachol.

Mae gadael gwastraff masnachol yn y safleoedd CAGD yn drosedd dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac fe allech gael dirwy o £50,000 ac / neu ddwy flynedd o garchar.

Os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu adnewyddu mawr, dylid llogi sgip. Mae nifer o gwmnïau lleol a chenedlaethol yn cynnig gwasanaethau rheoli gwastraff neu, am gyngor pellach, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.

  • Lawrlwytho’r ffurflen gais isod neu gallwch gael ffurflen gais o Dderbynfa’r Cyngor yng Nghyswllt Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW.
  • Cytuno gyda’n telerau ac amodau a dod â’ch ffurflen gais wedi’i chwblhau i Cyswllt Môn, Llangefni.
  • Bydden yn ogystal angen dogfen gofrestru eich cerbyd (V5) a phrawf cyfatebol o gyfeiriad ym Môn fel bil diweddar am gyfleustodau neu fil Treth Gyngor.

Os byddwch yn gwneud cais am ganiatâd trelar, dylai’r ddogfen (V5) fod ar gyfer y car fydd yn tynnu’r trelar.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn 12 caniatâd am uchafswm o 12 ymweliad.

Gallwch ddewis pa bryd i ddefnyddio’r canatiadau. Er hyn ni allwch ymgeisio am fwy o ganiatadau nes y bydd eich 12 caniatâd wedi cael eu defnyddio a fod y cyfnod o 12 mis ers i chi ymgeisio am y caniatadau diwethaf wedi dod i ben.

Pan fyddwch yn cyrraedd safle ailgylchu, bydd aelod o staff yn gofyn i chwi am un caniatâd a bydd yn cadarnhau bod manylion y cerbyd yn cyfateb i’r manylion ar y caniatâd. Byddent yn cadw’r caniatâd.

Mae pob ymweliad yn cael ei gyfrif ar wahân. Cymerir caniatâd am bob ymweliad.

Nid yw’r caniatâd ond yn ddilys yn un o’r ddau CAGD ym Môn (Gwalchmai a Phenhesgyn).

Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r ffurflen gais yn llawn i atal unrhyw oedi.

Os byddwn yn derbyn ffurflen gais wedi ei chwblhau’n llawn cyn 12yh ar ddiwrnod gwaith, yna bydd y caniatâd yn cael ei anfon allan yn y post ail ddosbarth ar yr un diwrnod.

Os bydd ffurflen gais wedi ei chwblhau’n llawn yn cael ei derbyn ar ôl 12yh ar ddiwrnod gwaith, yna bydd caniatâd yn cael ei anfon allan yn y post ail ddosbarth y diwrnod canlynol.

Ni fyddwch yn gallu mynd i mewn i safle CAGD heb ganiatâd dilys.

Os yw eich cerbyd yn llai na 5m o hyd a 2.1m o uchder (yn cynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol) ac yn cynnwys un neu ragor o’r nodweddion canlynol, yna bydd yn cael ei gategoreiddio fel cerbyd o fath masnachol:

  • dim seti yn y cefn
  • dim ffenestri yn y cefn ac/neu ar ei ochrau
  • cefn agored ar wahân i’r caban (lorïau bychain o fath ‘pick-up’)
  • unrhyw gerbyd gydag arwyddion ysgrifenedig ar y tu allan iddo

Bydd yn rhaid i chwi ddisgwyl nes bydd y 12 mis wedi dod i ben cyn gwneud cais a ganiatâd newydd.

Mae pob caniatâd yn golygu y cewch ddefnyddio’r naill CAGD neu’r llall 12 o weithiau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Unwaith y byddwch wedi ymweld â’r safleoedd 12 o weithiau, ni chewch fynd i mewn i unrhyw un o’r canolfannau ailchylchu yn eich fan neu gyda’ch trelar hyd nes y bydd y cyfnod o 12 mis wedi mynd heibio.

Caniateir i chi fynd i mewn i CAGD os ydych wedi llogi fan neu gerbyd o fath masnachol am gyfnod o 3 diwrnod neu lai (ni chaiff fod yn hirach na 5m neu’n uwch na 2.1m gan gynnwys unrhyw osodiadau ychwanegol).

Dangoswch eich dogfennau llogi i’n staff ar y safle a bydd hynny’n cyfateb i ganiatâd dros dro.

Ni fydd posib cael mynediad i safle heb ganiatâd dilys.

Bydd pob cerbyd sy’n mynd i mewn i CAGD yn cael ei archwilio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda rheolau’r safle.

Bydd cerbydau a threlars yn cael eu mesur o bryd i’w gilydd wrth iddynt gyrraedd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio a bydd camerâu adnabod platiau rhif awtomatig yn cael eu defnyddio.

Mae rhwystrau uchder 2.1m wedi eu gosod ar y ddwy safle CAGD (Gwalchmai a Phenhesgyn).

Bydd unrhyw gerbydau a threlars nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu troi ymaith ac ni chaniateir iddynt fynd i mewn i’r safleoedd.