Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Casgliad sbwriel wedi'i fethu: rhowch wybod


Os wnaethoch chi roi eich gwastraff allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu arferol ac na chafodd y gwastraff ei gasglu erbyn 5pm, cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff cyn 12pm ar yr ail ddiwrnod gwaith yn dilyn eich casgliad arferol.

Os cafodd eich casgliad gwastraff ei fethu ar ddydd Gwener, cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff erbyn 12pm ar y dydd Mawrth canlynol er mwyn rhoi gwybod iddynt. 

Os nad ydych yn rhoi gwybod am gasgliad wed’i fethu erbyn 12pm ar yr ail ddiwrnod gwaith yn dilyn eich casgliad arferol, ni fydd eich bin, eich troli ailgylchu neu eich bin gwastraff bwyd yn cael eu casglu tan y casgliad arferol nesaf. 

Anghofio rhoi'r bin/trolibocs allan i'w gasglu

Os nad yw eich gwastraff wedi ei gasglu oherwydd eich bod heb roi’r trolibocs neu’r biniau allan i’w casglu ar yr amser neu’r diwrnod cywir, ni fydd eich biniau a’ch trolibox yn cael eu casglu tan y casgliad arferol nesaf.

Mae systemau tracio gyda lloeren ar y cerbydau ailgylchu a chasglu gwastraff sy’n nodi pa bryd ac ar ba ddiwrnod y mae’r cerbyd wedi galw i gasglu eich biniau a’ch trolibocs. Felly, os nad yw eich biniau a’ch trolibocs wedi cael eu rhoi allan i’w casglu pan fo’r cerbydau’n galw ar eich diwrnod casglu arferol, ni fydd hyn yn cael ei gyfrif fel casgliad a fethwyd.

Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod yn rhoi eich biniau a’ch trolibocs allan i’w casglu erbyn 7am ar eich diwrnod casglu arferol fel y gellir eu casglu.

Rheoli Gwastraff
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: (01248) 750057

We welcome calls in Welsh and English

Am ymholiadau cyffredinol gweler Ffurflen Ymholi Rheoli Gwastraff