Cofiwch olchi a gwasgu eich eitemau ailgylchu cyn eu rhoi yn y troli bocs. Bydd hyn yn creu mwy o le yn eich troli bocs ac yn sicrhau fod eich bocsys yn cael eu gwagio.
Os yw’r eitemau ailgylchu a gyflwynir yn fudr, neu os oes olion bwyd arnynt, ni fydd Contractwr Casglu Gwastraff y Cyngor yn gwagio’r bocsys ailgylchu.
Byddant yn cael eu gadael ac yn cael eu casglu’r wythnos ganlynol (ar yr amod fod pob eitem yn lân).
Trolibocs
Bocs top coch
- papur cymysg
- cylchgronau ac amlenni
- tecstiliau, fel hen ddillad a deunydd, gan gynnwys dillad gwely. Dim duvets na chobennydd (mae angen i'r tecstiliau fod mewn bag)
Sicrhewch os gwelwch yn dda bod y tecstiliau yn cael eu rhoi mewn bag plastig o fewn y bocs top coch ar bob achlysur. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y tecstiliau yn gwlychu mewn tywydd garw.
Bocs canol glas
- poteli plastig
- potiau, tybiau a chynwysyddion plastig
- caniau diod, tuniau bwyd ac erosolau
- eitemau ffoil glân
Dim tuniau nwy
Bocs gwaelod oren
- poteli gwydr a jariau
- cardbord (dim mwy na 50cm x 50cm)
Bin gwastraff bwyd
- llysiau a ffrwythau
- bara a phastai
- cynnyrch llaeth
- cig ac esgyrn
- pysgod
- te a choffi
Cwdyn gwyn
- batris cartref
- cetris inc
- ffonau symudol
- toriadau gwair
- dail
- chwyn
- blodau a phlanhigion
- brigdoriadau gardd
- toriadau gwrychoedd
- brigau a changhennau tenau
Cofiwch
- dim bagiau plastig
- dim gwastraff cegin a bwyd
- dim pridd a rwbel
Gwastraff peryglus
Mae’n rhaid i eitemau gwastraff peryglus megis batris, blychau nwy, cemegau a barbeciws y gellir eu taflu gael eu gwaredu yn y modd priodol.
Mae’r eitemau hyn yn gallu achosi gwres ac ni ddylid eu rhoi gyda’r gwastraff cyffredinol. Gall yr eitemau hyn achosi tân yn y canolfannau ailgylchu gan greu sefyllfaoedd peryglus ac achosi risg i nifer o bobl.
Defnyddiwch eich bag ailgylchu gwyn bach er mwyn cael gwared ar fatris.
Dylid cael gwared ar yr holl eitemau gwastraff peryglus eraill yn y modd priodol yng nghanolfan ailgylchu gwastraff domestig Gwalchmai neu Phenhesgyn.