Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwastraff busnesau a masnachol


Nid yw’r ddwy Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Domestig ar yr Ynys wedi eu hawdurdodi’n gyfreithiol i gymryd gwastraff masnachol neu wastraff o fusnesau. Os byddwch yn mynd â gwastraff masnachol neu wastraff o fusnesau i’r safleoedd hyn, yna, byddwch yn torri’r gyfraith.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymgynghoriad gyda’r Adain Rheoli Gwastraff a Heddlu Gogledd Cymru, yn gweithredu ar y cyd yn rheolaidd ac yn stopio cerbydau masnachol a’u harchwilio am wastraff sy’n cael ei gludo’n anghyfreithlon.

Gall y dirwyon os deuir o hyd i wastraff ac os bydd erlyniad, fod yn uchel.  Gall dirwyon amrywio o £300 am ddirwy sefydlog yn y fan a’r lle i hyd at £5,000 os aiff yr achos i’r Llys.

Byddwn yn awgrymu eich bod yn darllen y gwybodaeth canlynol os yr ydych angen gwaredu a gwastraff masnachol, gan bod angen trywydd papur ar gyfer dibenion cyfreithiol.

Beth sydd angen i chi ei wneud wrth gyflogi person i wneud gwaith masnachol?

Os ydych chi’n cyflogi rhywun i wneud gwaith i chi a bod y gwaith hwnnw am gynhyrchu gwastraff a bod y person sy’n gwneud y gwaith i chi yn cynnig mynd â’r gwastraff i ffwrdd, rhaid i chi fod yn siŵr o rai pethau:

  1. Bod gan y person Drwydded Cludo Gwastraff.  Bydd y drwydded yn cynnwys rhif unigryw a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru
  2. Yna, bydd y person sy’n gwneud y gwaith yn rhoi derbynneb i chi. Bydd y dderbynneb yn cynnwys, ymysg manylion eraill, y wybodaeth ganlynol:
  •  manylion y person sy’n cludo gwastraff
  • cyfeirnod unigryw’r person
  • rhif sy’n dilyn trefn rifyddol mewn llyfr derbynebion
  • y dyddiad
  •  manylion neu ddisgrifiad o’r gwastraff
  •  o ble y mae’r gwastraff yn dod, ac
  •  i ble y mae’n cael ei ddanfon

Dylid cadw’r dderbynneb a’i dangos fel tystiolaeth os bydd Swyddogion awdurdodedig yn gofyn amdani.

Yr hyn y mae angen i fasnachwr sy’n cario gwastraff masnachol neu wastraff o fusnesau ei wneud?

Dylai’r person sy’n gwneud gwaith masnachol fod wedi cael Trwydded Cludo Gwastraff a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru . Mae ar y drwydded gyfeirnod unigryw sy’n awdurdodi’r deilydd i gludo gwastraff o fusnesau ac/neu wastraff masnachol.

Pan mae person yn gwneud gwaith sy’n golygu y cynhyrchir gwastraff sydd ddim yn wastraff peryglus a bod y person sy’n ei gyflogi/chyflogi yn gofyn iddo/iddi fynd â’r gwastraff ymaith, rhaid i’r person sy’n gwneud y gwaith roi derbynneb i’r person sy’n ei gyflogi/chyflogi (yn unol â’r uchod). Yna, bydd y person sydd wedi gwneud y gwaith yn cadw copi o’r dderbynneb am bum mlynedd.