Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Adeiladau hanesyddol a rhestredig


Mae adeiladau hanesyddol yn asedau pwysig ac mae angen eu diogelu er mwyn cadw treftadaeth adeiledig unrhyw ardal.

Fe geir proses a elwir yn ‘rhestru’ er mwyn sicrhau bod adeiladau y bernir eu bod â rhagoriaeth bensaernïol neu hanesyddol neu eu bod wedi’u cysylltu â digwyddiad hanesyddol o bwys neu berson, yn cael eu diogelu.

Gellir rhestru adeiladau oherwydd oed, prinder, teilyngdod pensaernïol, a dull o adeiladu. Hynaf yn y byd yw adeilad, y mwyaf tebygol ydyw o gael ei restru. Byddai raid i adeilad gweddol newydd fod yn un o bwysigrwydd eithriadol er mwyn cael ei restru.

Y mae graddfeydd gwahanol ar gyfer Adeiladau Rhestredig yng Nghymru. Mae’r adeiladau yn cael eu graddoli yn ôl eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol.

Graddfa I     - Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, yn genedlaethol fer arfer

Graddfa II*   - Adeiladau sydd yn hynod o bwysig ac o fwy na diddordeb arbennig

Graddfa II    - Adeiladau o ddiddordeb arbennig, sy’n gwarantu pob ymdrech i’w cadw.

Ar Ynys Môn mae ystod eang o adeiladau rhestredig sydd yn cynnwys pontydd, waliau, ffynhonnau, bythynnod brodorol, tai stadau mawr ac adeiladau fferm. Trwy restru’r adeiladau hyn sydd o bwysigrwydd hanesyddol y mae treftadaeth adeiledig yn Ynys Môn wedi’i diogelu i genedlaethau’r dyfodol.

Mae’r adeiladau hanesyddol ar Ynys Môn yn rhoddi synnwyr o identiti i’r ardal ac yn dangos hanes yr ynys a’r cenedlaethau blaenorol fu’n byw yma. Mae’n bwysig fod adeiladau o’r fath yn cael eu diogelu er mwyn cadw hunaniaeth ddiwylliannol Ynys Môn.

Mae rhestru adeilad yn sicrhau y bydd teilyngdod pensaernïol a hanesyddol unrhyw adeilad yn cael ei ystyried yn ofalus cyn y rhoddir caniatâd i wneud unrhyw addasiadau. Rhaid i unrhyw newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r adeilad fod yn rhai fydd yn cydymdeimlo â’i gymeriad a’i ddyluniad gwreiddiol.

Cyngor ar adeiladau hanesyddol a rhestredig

Mae swyddog cadwraeth yn yr Amgylchedd Adeiledig a Naturiol sydd ar gael i roddi cyngor a chyfarwyddyd i’r cyhoedd ar adeiladau hanesyddol.

Gellir cael gwybodaeth p’run a yw adeilad yn un rhestredig ai peidio, ac os ydyw, pa radd ydyw. Os yw adeilad wedi’i restru bydd y swyddog cadwraeth yn gallu rhoddi cyngor ar ba ddiogelwch y mae’r raddfa yn ei darparu.

Argymhellir yn gryf eich bod yn derbyn cyngor p’run a yw adeilad rhestredig angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwneud unrhyw addasiadau. Os oes angen caniatâd gellir trefnu cyfarfod cyn gwneud y cais, sef cyfle i drafod a yw’r newidiadau arfaethedig yn rhai priodol. Bydd y swyddog cadwraeth yn gallu sefydlu a yw’r newidiadau yn rhai sy’n sympathetig i’r adeilad a heb newid y cymeriad.

Gellir cael cyngor hefyd p’run a yw adeilad o fewn ardal cadwraeth neu ardal Cyfarwyddyd Erthygl 4 lle mae Hawliau Datblygu a Ganiateir wedi cael eu tynnu (ee Biwmares). Os yw eiddo y tu mewn i'r ffiniau hyn mae cyngor ar gael ar ba newidiadau y gellir eu gwneud i adeilad ac ar a oes raid cael caniatâd. 

Mae’r Adran Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd yn cynhyrchu llenyddiaeth ar adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth i’w dosbarthu i’r cyhoedd ac maent ar gael o ofyn amdanynt.

Os gwyddoch am adeilad y teimlwch chi fod iddo rinweddau hanesyddol a phensaernïol a’ch bod o’r farn y dylai gael ei restru yna dylech gysylltu ag Adran yr Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd yn yr Adran Gynllunio pwy fydd yn gallu rhoi cyngor ar y broses gywir.

Caniatâd adeilad rhestredig

Rhaid derbyn caniatâd adeilad rhestredig gan yr awdurdod cynllunio leol cyn gwneud unrhyw waith ar adeilad rhestredig fydd yn cael effaith ar ei werth arbennig i bwrpasau rhestru. Bydd hyn bron yn sicr ar gyfer gwneud addasiadau. Bydd newid defnydd adeilad hefyd yn debygol o fod angen caniatâd adeilad rhestredig.

Mae angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig. Dyma’r achos hefyd ar gyfer unrhyw waith ehangu all gael effaith ar gymeriad unrhyw adeilad. Ceir tybiaeth o blaid cadwraeth adeiladau rhestredig.

Mae’n drosedd cyfreithiol i altro adeilad rhestredig cyn derbyn caniatâd adeilad rhestredig statudol oddi wrth yr awdurdod cynllunio lleol. Gall perchenogion neu bersonau sydd yn gwneud gwaith heb y caniatâd priodol gael eu herlyn.

Cyn y gwneir cais am ganiatâd adeilad rhestredig byddai’n dda o beth i drefnu cyfarfod gyda swyddog cadwraeth yr awdurdod lleol i drafod manylion yr addasiadau bwriedir i’r adeilad. Gellir rhoddi cyngor yng nghyswllt y dyluniad a’r deunyddiau sydd i’w defnyddio i wneud unrhyw newidiadau arfaethedig.

Bydd y swyddog cadwraeth yn gallu darparu cyngor p’run a yw’r cynigion yn briodol ac yn cydymdeimlo â chymeriad gwreiddiol yr adeilad. Gellir hefyd roddi cyngor ar yr hyn a ddisgwylir o gais cyn ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.

Os nad ydych yn sicr a yw adeilad wedi’i restru ai peidio argymhellir eich bod yn cysylltu â’r awdurdod cynllunio lleol sydd â chyfrifoldeb statudol dros gynnal a chadw’r gofrestr ar gyfer y cyhoedd.

Pan fydd cyllid ar gael efallai y bydd Cadw yn gallu cynnig cymorth grant ar gyfer atgyweirio neu adfer adeiladau hanesyddol.