Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cadwraeth ardaloedd


Crёwyd yr ardaloedd Cadwraeth gan Ddeddf Amwynderau Dinesig 1967 pan benderfynwyd nad oedd rhestru adeiladau hanesyddol yn unigol yn ddigon i amddiffyn lleoliad a grwpiau o adeiladau a oedd yn cyfrannu at gymeriad y lle fel cyfanwaith er nad oeddent wedi eu rhestru’n unigol.

Sylweddolwyd fod y llefydd rhwng adeiladau, a choed, yn elfennau pwysig a phenderfynwyd gwarchod ardaloedd cyfan i’w galw’n Ardaloedd Cadwraeth.

Dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi fel ardaloedd Cadwraeth ‘Unrhyw ardal o ddiddordeb pensaerniol neu hanesyddol arbennig y mae’n ddymunol diogelu neu harddu ei chymeriad neu ei golwg’.

Rhestrwyd isod holl Ardaloedd Cadwraeth a’r Ynys Môn. Mae'r dogfennau yn cynnwys adroddiad llawn sy’n manylu rheswn dros eu dynodiad, disgrifiad o’r ardal, gwellianau sydd wedi eu gwneud, a lluniau o’r ardaloedd. 

Hawlfraint
Mae’r cynlluniau yn y ddogfen hon wedi ei seilio ar fapio’r O.S. gyda chaniatad Rheolwr ‘Her Majesty’s Stationery Office’ © Crown Copyright. Rhif Trwydded LA09001L. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Adain Amgylchedd Adeiledig a Thirlunio. Hen luniau © Gwasanaeth Archifau, Cyngor Sir Ynys Môn. Dylid cael caniatâd gan y Cyngor cyn copïo unrhyw ddarn o’r ddogfen.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.