Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwrychoedd uchel: canllaw i berchnogion


Mi fedrwch gyflwyno cwyn i’r Cyngor Sir os ydyw gwrych bythwyrdd yn cael effaith ar eich ty neu’ch eiddo. Bydd raid cyflwyno unrhyw gwyn ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Cynllunio.

Perchennog neu ddeiliad eiddo domestig.

Gall unigolion gwyno os ydyw uchder gwrych ar dir sy’n eiddo neu sy’n cael ei ddal gan berson arall yn cael effaith ddrwg ar bleser rhesymol unigolion yn eu haneddau.

Oes. Y diffiniad yw fod gwrych o’r fath yn rhwystr i oleuni neu i fynedfa oherwydd ei fod yn cynnwys yn gyfan gwbl neu yn bennaf linell o ddwy neu ragor na dwy o goed bythwyrdd, a’r gwrych hwnnw yn o leiaf 2 fetr o uchder uwchlaw lefel y tir.

Nac oes.

Dywed y ddeddf nad yw llinell o goed bythwyrdd yn ffurfio rhwystr i oleuni nac i fynedfa os oes bylchau yn y llinell a’r rheini yn cael effaith sylweddol ar y gwrych fel rhwystr ar lefel uwchlaw 2 fetr uwchben y ddaear.

Oes. “Bythwyrdd” yw coeden neu lwyn bythwyrdd neu goeden neu lwyn hanner bythwyrdd.

Na. Dyw’r gwreiddiau ddim wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth hon.

Hefo’r Cyngor. Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor fydd yn delio gyda’r cwynion.

Ydyw. Codir ffi petaech yn rhoddi cyfarwyddyd i’r Cyngor fwrw ymlaen gyda’r gwyn.

Na. Yn y lle cyntaf rhaid i chwi gymryd pob cam rhesymol i ddatrys yr anghydfod gyda’ch cymydog cyn cysylltu gyda’r Cyngor; mynd at y Cyngor yw’r cam olaf ar ôl i bob peth arall fethu. Efallai y bydd y Cyngor yn gwrthod derbyn y gwyn petai’n credu eich bod heb gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y mater neu fel arall petai’r gwyn yn ddisylwedd neu’n flinderus. Cafwyd y ddarpariaeth hon yn benodol i rwystro cwynion di-sail neu rai maleisus a hefyd i sicrhau bod yr achwynydd o leiaf wedi ceisio cyrraedd cytundeb cyfeillgar gyda pherchennog y gwrych. Dylai’r achwynydd gadw cofnod o’r dyddiadau pryd y gofynnir ar lafar neu ar bapur i berchennog gwrych wneud rhywbeth yn ei gylch, a chofnod hefyd o unrhyw ymateb.

Wedyn bydd raid i’r Cyngor ymchwilio i’r gwyn, penderfynu a oes cyfiawnhad iddi ai peidio, sef a ydyw uchder y gwrych yn cael effaith ar bleser rhesymol unigolyn yn ei annedd. Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i roi gwybod am ei benderfyniad i’r achwynydd/achwynwyr a hefyd i berchennog y gwrych ac egluro’r rhesymau y mae’r penderfyniad yn seiliedig arnynt.

Bydd. Bydd pob Awdurdod Lleol yn derbyn cyngor a nodiadau cyfarwyddyd cenedlaethol er mwyn sicrhau cysondeb wrth asesu a ydyw gwrych yn rhy uchel ai peidio.

Wedyn bydd y Cyngor yn cyflwyno “rhybudd cywiro” i berchennog y gwrych ac yn y rhybudd hwnnw nodir pa gamau cychwynnol y bydd raid i’r perchennog eu cymryd; hefyd nodir unrhyw gamau ataliol y bydd raid eu cymryd a’r gosb ariannol am fethu cydymffurfio gyda rhybudd. Bydd y rhybudd yn ddilys fel “pridiant tir lleol” ar weithredoedd yr eiddo, ac yn aros hyd yn oed pan fo perchnogaeth yr eiddo yn newid.

Na. Ac nid yw’n bosib chwaith gorchymyn i’r gwrych gael ei dorri yn is na 2 fetr.

Ar y rhybudd cywiro bydd dyddiad wedi ei stampio. Yn y rhybudd nodir dyddiad gweithredol. Hwn yw’r dyddiad fydd yn o leiaf 28 diwrnod ar ôl dyddiad y stamp, a’r dyddiad hefyd pryd y bydd y rhybudd yn dod i rym. Yn ogystal nodir yn y rhybudd beth yw’r cyfnod cydymffurfio, sef amser digonol i wneud yr holl waith.

Ydyw. Gall y Cyngor sy’n rhyddhau rhybudd ei dynnu yn ôl hefyd, neu ddileu un o ofynion y rhybudd unrhyw adeg, ond rhaid rhoi gwybod am beth felly i’r achwynydd.

Oes. Gall y naill barti neu’r llall yn yr anghydfod apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor petai’r parti hwnnw yn anhapus gyda’r penderfyniad. Fel arfer bydd raid cyflwyno apêl cyn pen 28 diwrnod i ryddhau penderfyniad y Cyngor. Yr Arolygfa Gynllunio fydd yn delio gydag apeliadau.

Bydd gan y Cyngor hawl gyfreithiol i fynd ar dir i ymchwilio i gwyn bod gwrych yn rhy uchel, a hawl hefyd i wneud gwaith y mae perchennog y gwrych wedi methu â’i wneud. Dan y gyfraith bydd modd hawlio costau’r gwaith oddi ar berchennog y gwrych.

Dan y Ddeddf mae’n drosedd methu â chydymffurfio gyda rhybudd cywiro ac os ceir unigolyn yn euog mewn Llys yna mae modd ei ddirwyo.

Gall y Cyngor yrru gweithwyr i’r lle i dorri’r gwrych ac yna codi ar berchennog y gwrych am y costau llawn.

Ydyw. Bydd modd erlyn mewn llys unrhyw gorff corfforaethol - union fel erlyn unigolyn - a hefyd mae modd erlyn swyddogion unigol sy’n perthyn i’r corff corfforaethol.