Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cadwraeth coed


Mae awdurdod cynllunio lleol yn meddu ar bwerau penodol i warchod coed trwy orchmynion cadw coed, er mai’r Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y rheolau ar gyfer torri coed mewn coetiroedd.

Geir rheolau arbennig mewn perthynas â choed mewn ardaloedd cadwraeth sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau cynllunio lleol.

Mae’r wybodaeth yma wedi’i lunio’n arbennig ar gyfer perchnogion coed, y cyhoedd a grwpiau hamdden ac mae’n ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am y trefniadau gwarchod coed.

Canllaw yn unig ydyw, ac ni ddylid meddwl amdano fel datganiad cyfraith. Dylech holi’ch cyfreithiwr i gael gwybod beth yn union yw’ch hawliau a chyfrifoldebau.