Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Beth sy'n bygwth bywyd gwyllt?


Wrth golli cynefinoedd mae bywyd gwyllt yn wynebu risg fawr yn gyffredinol ond hefyd mae yna ddatblygiadau eraill sy’n medru achosi difrod enfawr i gynefinoedd ac i fywyd gwyllt.

Planhigion estron ymledol

Mae’r planhigion ymledol yma yn fygythiad enfawr sy’n achosi costau mawr - mae tua £2 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar geisio cael gwared ohonynt.  Yn sydyn iawn mae’r planhigion hyn yn cael y llaw uchaf ar blanhigion eraill ac o’r herwydd mae’r rhywogaethau brodorol yn ildio cynefinoedd a hefyd collir ffynonellau o fwyd - yn y pen draw mae hyn yn gallu arwain at lai o amrywiaeth mewn byd natur.

Hefyd gallant achosi problemau uniongyrchol i’r gymdeithas drwyddi draw oherwydd yr effaith ar isadeiledd ac oherwydd risgiau llifogydd.  Daw nifer o’r planhigion hyn o ganolfannau garddio ac o’r fasnach acwariwm.  Ar wefan Plantlife ceir cyngor ar blanhigion i’w hosgoi ac ar blanhigion eraill y mae modd eu prynu yn eu lle; hefyd mae gan GB Non-native Species Secretariat (NNSS) ganllawiau defnyddiol i’w llawrlwytho fel cymorth i adnabod y planhigion drwg.

Sbwriel

Rydym yn ffodus iawn fod yma, ar Ynys Môn, arfordir rhagorol, yn llawn o amrywiaeth ond mae sbwriel plastig yn creu problem fawr. Dyw llawer o’r plastig hwn ddim yn pydru’n naturiol a gall greu peryglon - rhai yn amlycach nag eraill. 

Mae’n hyll ac yn ddrwg iawn i adar, pysgod ac anifeiliaid, oherwydd gall y creaduriaid hyn fynd yn sownd yn y plastig neu ei fwyta, a marw yn sgil hynny yn aml iawn.  Yn yr haf daw y môr-grwban lledraidd i’n dyfroedd - hwn yw’r crwban mwyaf yn y byd a thrwy gamgymeriad gall fwyta bag plastig neu falwn trwy gamgymryd y pethau hyn am eu hoff fwyd, sef y sglefren fôr a’i fygu i farwolaeth.

Hefyd rhaid cofio bod sbwriel yn gymorth i rywogaethau estron ymledu - gwnânt hynny trwy lynu wrth ynysoedd mawr iawn o blastig sy’n nofio ar wyneb y môr a hwnnw wedyn yn cael ei gario ar y llanw a’i adael mewn mannau arfordirol i greu problemau i’r bywyd gwyllt brodorol.

Ond mae sawl peth syml y medrwn ei wneud i gynnig cymorth - megis torri’r plastig hwnnw sy’n dal caniau wrth ei gilydd (caniau cwrw a chaniau cyffredinol) ac wedyn nid yw anifeiliaid yn mynd yn sownd ynddo.  Hefyd mae angen rhoddi byds cotwm mewn bin nid i lawr y toiled dwr.

Gan fod balwns yn syrthio yn y môr ar ddiwedd eu taith mae eisiau gofal - yn wir peidio â’u rhyddhau.

Yn gyffredinol y neges bwysig yw defnyddio llai o bethau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Dan y cynllun Mabwysiadu Traeth mae modd i bawb fod yn rhan o’r dreftadaeth arfordirol werthfawr a glân.