Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Beth yw bioamrywiaeth?


Mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli bod cyswllt rhwng safon ein bywydau beunyddiol ac iechyd yr amgylchedd yn lleol.

Yma yn Ynys Môn mae gennym yn ein cymunedau - ein trefi, pentrefi, yr arfordir a’r cefn gwlad - amgylchedd naturiol y bydd raid i ni ofalu amdano a’i hyrwyddo, a sicrhau y byddwn ni a’n plant, yn y dyfodol, yn medru mwynhau harddwch y natur sydd ar yr ynys.

Oherwydd ôl gwaith dyn rydym, ar raddfa sy’n cyflymu’n wastad, yn colli bioamrywiaeth y ddaear gan ein gadael, bob un ohonom, yn dlotach ac mae’r systemau sy’n cynnal bywyd -  rhai yr ydym yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd - yn cael eu difrodi.

Ond hefyd mae pobl yn rhan o fioamrywiaeth.  Daw’r rhan fwyaf o’r ocsigen yr ydym yn ei anadlu o’r plancton yn y moroedd ac o fforestydd ar draws y byd.  Mae’n debyg bod y ffrwythau a’r llysiau yr ydym yn eu bwyta wedi eu peillio gan wenyn, ac mae’r dŵr a yfwn yn rhan o gylch byd-eang anferth yn dibynnu arnom ni, ar y cymylau, y glaw, y rhew, yr afonydd a’r moroedd.

Rydym yn bwyta’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw o’n cwmpas - mae’r gweiriau yn rhoddi i ni reis a gwenith, wedyn mae’r pysgod a’r cig yn dod o natur wyllt neu o ffermydd, yn ein cyrff mae dros 100 triliwn o gelloedd mân a chyswllt rhwng y rheini a’r byd mawr - rhan o system sy’n wyrthiol a rhyfeddol. 

Rydym yn rhannu’r byd hwn gyda thua 13 miliwn o rywogaethau gwahanol - planhigion, anifeiliaid a bacteria a dim ond 1.75 miliwn o’r rhain sydd wedi cael enw ac wedi eu cofnodi.  Mae’r cyfoeth naturiol di ben draw hwn yn drysor amhrisiadwy.  Mae’r systemau a’r prosesau a ddaw yn sgil y miliynau hyn o gymdogion gyda’i gilydd yn rhoddi i ni ein bwyd, ein dŵr a’r aer, felly maent yn bwysig eithriadol i’n bywydau.

Ond ar ben hyn oll maent hefyd yn rhoddi i ni goed a phlanhigion ar gyfer dodrefn, adeiladau a thanwydd, y nhw sy’n rheoli’r tywydd, yn llywio’r llifogydd ac yn ailgylchu ein gwastraff a nhw sy’n gyfrifol am gemegau a chyfuniadau eraill sy’n gynsail ac yn sylfaen i’r meddyginiaethau a ddefnyddiwn.Efallai’n wir ein bod yn cymryd y fioamrywiaeth hon yn ganiataol er ei bod ym mhob man o’n cwmpas ac mae’n hawdd iawn anghofio am ei bodolaeth - ein bod ni mewn gwirionedd yn rhan ohoni!  Mae colli rhywogaethau unigryw yn golled nad yw’n hawdd ei dirnad ac o’u colli rydym oll yn cael ein gadael yn dlawd.

Oherwydd gwaith dyn, mae amrywiaeth hardd a hael y byd naturiol yn wynebu difrod.  Achosir difrod o’r fath trwy dorri a llosgi coed, dadwreiddio mangrofau, ffarmio dwys, creu llygredd, gorbysgota a hefyd yn sgil effaith newid yn yr hinsawdd.

Fe allwn atal y broses hon, ond ydym ni’n fodlon gwneud hynny?