Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi


Am ddiwrnod difyr yng nghefn gwlad hardd Ynys Môn, beth am ymweld â Pharc Morglawdd Caergybi?

Cafodd Parc Gwledig Morglawdd Caergybi ei agor ym 1990 ac mae wedi’i leoli ar safle hen chwarel. O’r chwarel hon y cafwyd y cerrig i adeiladu morglawdd Caergybi sy’n 2.3km o hyd - y morglawdd hiraf yn Ewrop gafodd ei adeiladu rhwng 1846 a 1873.

Mae’r parc yn rhoi blas ar holl brydferthwch, hanes ac apêl naturiol Ynys Môn - a hynny o fewn un safle. Mae gan y parc lawer i’w gynnig:

Llyn Llwynog

Lle gallwch chi bysgota a gwylio’r cychod bach neu ymlacio yng nghwmni’r ieir dŵr a’r hwyaid gwylltion.

Yr Arfordir Creigiog

Mwynhewch y golygfeydd trawiadol wrth grwydro yn yr eithin a’r grug.

Bywyd gwyllt

Gwyliwch y brain coesgoch a’r hebogau tramor wrth iddyn nhw hedfan uwchben yr hen chwarel.

Cerdded

Mae yma amrywiaeth o lwybrau i gerddwyr ar bob lefel, gan gynnwys mynediad i Mynydd Twr ac Ynys Lawd.

Caban Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

Mae caban Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, yn gwerthu te, coffi, hufen iâ ac anrhegion bywyd gwyllt. Mae’r holl arian a godir yn mynd yn uniongyrchol tuag at ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol ar hyd a lled Gogledd Cymru.

Caffi’r Parc

Galwch heibio am fwyd blasus wedi’i baratoi gan ddefnyddio cynnyrch lleol, gan gynnwys byrbrydau a diodydd, yn ein caffi cyfeillgar a modern.

Buom wrthi’n trawsnewid hen dŷ’r warden yn y Parc yn lle gwych i roi eich clun i lawr, neu i gasglu bwyd ar gyfer eich tro o gwmpas y parc gwledig rhagorol sydd yng Nghaergybi.

Am ragor o wybodaeth gweler ein safle we twristiaeth.