Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyflenwad dŵr preifat


Cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr nad yw’n cael ei ddarparu gan Dŵr Cymru/Welsh Water.

Gall ffynhonnell y cyflenwad fod yn ffrwd, ffynnon, twll turio neu gyflenwad o wyneb y ddaear.  Mae’r cyflenwadau yn gwasanaethu eiddo sengl neu sawl eiddo neu’n gwasanaethu adeilad masnachol neu gyhoeddus.

Y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol ar gyfer rheoleiddio’r holl gyflenwadau dŵr preifat yng Nghymru yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010.  Mae’r rheoliadau yn:-

  • berthnasol i bob math o ddŵr sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei yfed, un ai yn ei ffurf wreiddiol neu ar ôl triniaeth, neu a ddefnyddir i bwrpas coginio, paratoi bwyd neu unrhyw bwrpasau domestig eraill.  Maent hefyd yn berthnasol i ddŵr a ddefnyddir mewn unrhyw weithgareddau cynhyrchu bwyd lle cynhyrchir cynhyrchion gyda’r bwriad i bobl eu bwyta.
  • pennu safonau ansawdd dŵr i ddiogelu iechyd defnyddwyr y cyflenwad.
  • golygu bod yn rhaid i’r Cyngor gynnal asesiad risg o’r holl gyflenwadau dŵr a rennir a’r holl gyflenwadau masnachol bob 5 mlynedd ac i ymateb i unrhyw gais am asesiad risg gan berchenogion neu ddeiliaid anheddau sengl.
  • golygu bod rhaid i’r Cyngor fonitro’r holl gyflenwadau a rennir a’r holl gyflenwadau masnachol yn unol â’r amlderau samplo a bennwyd ac i ymateb i unrhyw geisiadau gan berchenogion neu ddeiliaid anheddau sengl.
  • golygu bod rhaid i’r Cyngor gadw cofnod o’r holl gyflenwadau dŵr preifat yn y rhanbarth a chyflenwi adroddiad ar weithgareddau’r Arolygiaeth Dŵr Yfed (ADW).
  • amlinellu trefniadau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu dilyn os yw’n ystyried nad yw cyflenwad dŵr preifat yn iachus neu y gall fod yn beryglus i iechyd dynol.
  • gwneud darpariaeth i godi ffioedd ar berchenogion cyflenwadau preifat mewn perthynas â chynnal gwahanol weithgareddau neu gyflawni gwahanol ddyletswyddau sy’n ofynnol dan y rheoliadau.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cymeradwyo’r ffioedd a godir am weithgareddau dan y rheoliadau.  Gweler y manylion yn yr atodiad “Ffioedd cyflenwad dŵr preifat” isod.

Defra, DWI and Welsh Government:  Private Water Supply (Wales) Regulations 2010