Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun sgorio hylendid bwyd


Mae'r Cynllun hwn yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir i chi am safonau hylendid y busnesau. 

Chwilio am sgoriau hylendid bwyd

Beth yw'r gwahanol sgoriau?

Mae'r Cynllun yn rhoi sgôr rhwng 5 i 0 i fusnesau a gaiff ei harddangos yn ffenestri siopau neu ar-lein er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau gwybodus o ran ble i brynu neu fwyta bwyd.

Lefel y gydymffurfiaeth sydd yn pennu Sgôr Hylendid Bwyd busnes, sy'n amrywio o’r sgôr isaf '0' - Angen gwelliant ar frys i'r radd uchaf '5' - Da Iawn. Mae busnes yn cael un o'r sgoriau hyn:  

Dylai pob busnes fod yn gallu cyrraedd y sgôr uchaf o 5. Er mwyn cael y sgôr uchaf, sef '5', mae'n rhaid i fusnesau wneud yn dda ym mhob un o’r tair elfen.  Mae’n debygol bod y rhai sydd â sgôr o '0' yn perfformio'n wael ym mhob un o’r tair elfen ac maent yn debygol o fod â hanes o broblemau difrifol.  

Pan na fydd busnes yn cyrraedd y sgôr uchaf, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn esbonio i  berchennog neu reolwr y busnes pa welliannau sydd eu hangen. 

Caiff sgôr newydd ei rhoi bob tro y bydd y busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd o awdurdod lleol y busnes.

Mae amlder yr arolygiadau hyn yn dibynnu ar y risg posibl i iechyd y cyhoedd, fel y cafodd ei asesu yn yr arolygiad diwethaf.

Mae'r asesiad yn dibynnu ar:

  • y math o fwyd sy'n cael ei drin
  • nifer y cwsmeriaid
  • y math o brosesau a gynhelir cyn i'r bwyd gael ei werthu neu ei weini 
  • y safonau hylendid a welir ar y diwrnod

Caiff busnesau sy'n peri risg uwch eu harolygu'n amlach na busnesau sy'n peri risg is e.e. manwerthwr bach sy'n gwerthu amrywiaeth o fwydydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw.

Mae'r cyfnod rhwng arolygiadau yn amrywio o chwe mis ar gyfer y busnes risg uchaf i ddwy flynedd i fusnesau risg is. Ar gyfer rhai busnesau sy'n peri risg isel iawn, gall y cyfnod rhwng arolygiadau fod yn hirach na dwy flynedd.

I ganolbwyntio ar fusnesau sydd â safonau hylendid is, mae pob awdurdod lleol yn cynllunio rhaglen o arolygiadau bob blwyddyn. Mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol am nifer amrywiol o fusnesau bwyd felly mae'r rhaglen wedi'i dylunio i sicrhau eu bod yn arolygu ac yn sgorio'r safleoedd bwyd sy'n peri'r risg fwyaf i iechyd pobl yn amlach. 

Rhwng arolygiadau, gall awdurdodau lleol hefyd fonitro busnesau mewn ffyrdd eraill i sicrhau eu bod yn cynnal safonau hylendid ar bob adeg. Os yw'r gwiriadau hyn yn datgelu unrhyw beth a allai nodi bod safonau hylendid wedi gwaethygu, bydd y swyddog yn cynnal arolygiad a bydd y busnes yn cael sgôr newydd.

Os bydd yr awdurdod lleol yn derbyn cwyn neu wybodaeth newydd am fusnes nad yw ar yr amserlen arolygu, ac mae'n awgrymu nad yw safonau hylendid yn cael eu cynnal, bydd yr awdurdod lleol yn ymchwilio i hyn, ac fe all arolygu'r busnes a rhoi sgôr hylendid newydd iddo.

Os nad ydych chi’n credu fod statws eich busnes yn deg neu os ydych yn dymuno trafod eich statws, cysylltwch â'r swyddog a wnaeth yr arolygiad yn y lle cyntaf.

Os nad ydynt yn gallu datrys y mater, gallwch apelio drwy lenwi'r ffurflen apêl isod.

Mae'n rhaid apelio o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r busnes dderbyn yr adroddiad arolygu hylendid bwyd. Dylid anfon y ffurflen apêl wedi'i llenwi at y Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Bwyd).

Bydd yr apêl yn cael ei hystyried gan swyddog o'r awdurdod, nad oedd yn rhan o asesiad gwreiddiol y sgôr hylendid bwyd sy’n cael ei apelio. Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ynglŷn â’r apêl a rhoi gwybod i’r busnes ynglŷn â’r canlyniad o fewn 21 niwrnod i dderbyn yr apêl.

Yn ystod cyfnod y broses apelio, ni ddylai unrhyw sticer gael ei arddangos ac ni ddylid cyfeirio ato mewn unrhyw ddeunydd hysbysebu, ar y wefan ac ati.

Ffurflen apêl - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Mae gan fusnesau "Hawl i Ymateb”.  Mae hyn yn golygu y gall busnes roi sylwadau ar y sgôr a roddir iddynt. Rhaid cyflwyno’r sylwadau hyn yn ysgrifenedig i'r Cyngor drwy lenwi ffurflen hawl i ymateb.

Dylid anfon y ffurflen wedi’i llenwi at y Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Bwyd) a fydd yn trefnu i'r sylwadau gael eu cyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ynghyd â'r sgôr.

Fel gweithredwr busnes bwyd mae gennych hawl, o dan adran 12 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, i wneud cais ar unrhyw adeg am arolygiad at y diben oailsgorio, ar yr amod eich bod wedi talu costau rhesymol yr ailsgorio yn unol ag adran 13 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (oni fydd yr awdurdod bwyd wedi ymatalrhag gofyn am dalu‘r costau hynny ymlaen llaw – fel y darperir ar ei gyfer yn adran 12(6)o‘r Ddeddf, ac os felly, ceir talu‘r costau ar ôl cwblhau‘r arolygiad ailsgorio) ac os bodlonir hefyd yr amodau canlynol:

1. bod unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd bresennol wedi ei phenderfynu
2. eich bod wedi hysbysu‘r awdurdod bwyd y gwnaed gwelliannau yn safonau hylendid ysefydliad
3. bod yr awdurdod bwyd o‘r farn y byddai‘n rhesymol arolygu ac asesu‘r sefydliad ymhellach oherwydd y gwelliannau yr honnir eu bod wedi‘u gwneud
4. bod y sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol yn cael ei arddangos yn eich sefydliad yn unolâ gofynion adran 7 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a rheoliad 9 oReoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
5. eich bod wedi cytuno i sicrhau y caniateir mynediad i‘r awdurdod bwyd i gynnalarolygiad o‘r sefydliad at y diben o ailsgorio

Bydd swyddog yr awdurdod lleol yn rhoi ichi sgôr hylendid bwyd newydd, ar sail y lefel ogydymffurfiaeth a ganfyddir ar adeg yr ail ymweliad – dylech fod yn ymwybodol y gall eichsgôr naill ai godi neu ostwng, neu aros fel y mae ar hyn o bryd.

I wneud cais am ail ymweliad, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein isod.

Gwneir yr ail ymweliad o fewn 3 mis ar ôl gwneud y cais, ac fel rheol ni roddir rhybuddymlaen llaw.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais a ninnau gychwyn ei brosesu, ni fydd modd i chi gael addaliado’r ffi.

Cais am arolygiad ailsgorio - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.