Nid yw’r cyngor yn gyfrifol mwyach am garthffosydd cyhoeddus neu am glirio carthffosydd a draeniau preifat. Dylid cyfeirio ymholiadau neu geisiadau am wybodaeth a gwasanaethau i’r sefydliad isod.
Carthfosydd cyhoeddus
Gwasanaethau carthffosiaeth ac argyfwng Dŵr Cymru, 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos
Cyfeiriad: Dŵr Cymru, Blwch Post 690, Caerdydd, CF2 2WL
Ffôn: 08000 853 968
Carthffosydd a draeniau preifat wedi blocio
Nid yw’r cyngor yn gweithredu gwasanaeth i ddeiliad tai preifat i glirio carthffosydd a draeniau preifat. Efallai y byddech fel deiliaid tai yn dymuno defnyddio gwasanaethau contractwyr a restrir yn y Tudalennau Melyn dan “Drain and Pipe Cleaning”. Nodwch os gwelwch yn dda mai deiliaid tai sydd yn gyfrifol am dalu cost y gwasanaethau hyn.
Dylid parhau i roddi gwybod i’r Gwasanaethau Tai am broblemau sy’n effeithio carthffosydd a draeniau i dai cyngor.