Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gorsafoedd-petrol


Mae yna ofynion o ran rheoli anweddau [Rhan II] ar gyfer gorsafoedd gwasanaeth sydd eisoes yn bodoli ac sy’n delio gyda dros 3500m3 o betrol mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2007.

Mae gofynion hefyd ar gyfer gorsafoedd newydd sy’n delio gyda dros 500m3 o betrol.  Diffinnir “gorsaf sydd eisoes yn bodoli” fel un sydd wedi bod yn gweithredu neu sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar neu cyn 31 Rhagfyr 2009.  Diffinnir “gorsaf wasanaeth newydd” fel un sy’n dechrau gweithredu ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009 ac sydd ddim yn disgyn o fewn y diffiniad o orsaf sy’n bodoli eisoes.