Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Nwy radon


Nwy naturiol yw radon, sy’n digwydd o ganlyniad i ddadfeiliad ymbelydrol wraniwm.

Ceir ychydig bach ohono ym mhob craig ac mewn pridd. Mae’r nwy yn gwasgaru yn gyflym yn yr awyr agored, ond gall grynhoi mewn adeiladau, yn enwedig mewn mannau lle mae’r tir oddi tano yn cynnwys olion uwch na’r arfer o wraniwm a lle mae’r tir yn athraidd hefyd.

Diogelir cartrefi newydd gan ofynion y rheoliadau adeiladu mewn ardaloedd lle mae lefelau radon yn uchel. Gellir gosod mesurau i leihau’r lefelau mewn cartrefi presennol am bris rhesymol.

Mae bod mewn cysylltiad gyda lefelau uchel o radon am gyfnod hir yn beryglus i iechyd

  • Mae radon yn nwy ymbelydrol naturiol sy’n mynd i mewn i adeiladau o’r ddaear. Ni fedrwch ei weld, ei glywed, ei deimlo na’i flasu.
  • Radon y tu mewn i adeiladau yw’r ffynhonnell fwyaf o ymbelydredd y daw’r cyhoedd i gysylltiad gyda hi.
  • Mae bod mewn cysylltiad gyda lefelau uchel o radon yn eich cartref neu yn y gwaith yn ychwanegu at y risg o ganser yr ysgyfaint.
  • Mae radon mewn cartrefi yn y DU yn arwain at dros 1000 o achosion o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn – dim ond ysmygu sy’n achosi mwy.
  • Mae radon yn amrywio rhwng adeiladau, rhwng dau dŷ sydd y drws nesaf i’w gilydd a hyd yn oed rhwng dau dŷ yn yr un rhes.
  • Mae lefelau uchel yn fwy cyffredin mewn rhai ardaloedd o Ynys Môn. Po dywyllaf y lliw ar y map, mwyaf y risg o lefelau uchel.
  • Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd (ADI) yn cynnal mesuriadau radon. Gellir archebu pecyn i’ch cartref oddi ar y wefan. Daw cyfarwyddiadau llawn gyda’r pecyn.
  • Mae mesur lefelau radon yn hawdd. Caiff dau synhwyrydd gyda chyfarwyddiadau eu postio i chi, eu gosod am dri mis a’u dychwelyd ar gyfer eu dadansoddi. Mae’r cost am eu postio a’u pacio yn gynwysedig.
  • Caiff y canlyniad ynghyd ag eglurhad a chyngor eu hanfon yn ôl mewn llythyr.
  • Mae yna restr o labordai eraill sydd yn gymwys i fesur radon ar wefan yr ADI.
  • Lefel radon ar gyfartaledd mewn cartrefi yn y DU yw 20 becquerel fesul metr ciwbig (Bq m-3).
  • Y lefel weithredu ar gyfer radon mewn cartrefi yw 200 Bq m-3.
  • Pan ddeuir o hyd i lefelau radon uchel, argymhellir camau syml i ddatrys y broblem, camau sydd, fel arfer, yn effeithiol.
  • Os ydych chi’n rhedeg busnes, rhaid sicrhau nad yw radon yn creu unrhyw risg i’ch staff. Mae’r daflen “Radon at Work“ gan yr ADI yn rhoi mwy o wybodaeth ar hyn

Cysylltu

Cyngor Sir Ynys Môn, Adain Gwasanaethau Amgylcheddol ar 01248 752 820 neu e-bost iechydyramgylchedd@ynysmon.llyw.cymru

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd ar 01235 822 622 neu 0800 614 529 (galwadau am ddim) neu e-bost radon@hpa.org.uk

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.