Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Peiriannau mathru symudol


Mae peiriannau mathru symudol yn gwneud cyfraniad cynyddol bwysig i ostwng lefelau’r gwastraff adeiladu sy’n mynd i safleoedd tirlenwi oherwydd y gellir ailddefnyddio hen ddeunydd.

Mae cyfundrefn Atal a Rheoli Llygredd yr Awdurdodau Lleol yn berthnasol ar gyfer y defnydd o beiriannau mathru symudol ac mae Nodyn Canllaw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cynnwys cyfarwyddyd penodol ar gyfer mathru a sgrinio. 

Yn unol â’r cyfarwyddyd, mae’n rhaid cynnal asesiad gweledol o’r nwyon a ryddheir pryd bynnag y bydd peiriant symudol yn  cael ei danio, ac o leiaf ddwy waith wedyn yn ystod y dydd.  Bydd raid i’r gweithredwr gadw cofnod pob amser o’r archwiliadau a wnaed ar y peiriant symudol. Rhaid cadw cofnod am o leiaf ddwy flynedd  a rhaid dangos cofnodiadau o’r fath i Arolygydd yr Awdurdod Lleol pryd bynnag y bydd yn gofyn amdanynt.  Gellir llwytho i lawr enghraifft o lyfr log fel dogfen pdf. 

Mae ffioedd a thaliadau sy’n seiliedig ar risg wedi cael eu hymestyn bellach i beiriannau symudol a diwygiwyd Canllawiau’r Ysgrifennydd Gwladol gan NodynAQ 01(09) sy’n nodi bod raid sicrhau bod cofnod o waith cynnal ar gael i’w archwilio a bod raid i’r gweithredwr neu’r cwmni hurio, p’un bynnag sy’n gyfrifol am gynnal y peiriant, anfon crynodeb o’r gwaith cynnal a wnaed yn y 12 mis blaenorol i’r awdurdod lleol unwaith y flwyddyn.  Gellir addasu’r llyfr log enghreifftiol i’r pwrpas hwn.  Dylid anfon crynodeb o’r gwaith cynnal i’r Cyngor erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.  Gallai methiant i wneud hynny arwain at sgôr uwch a chostau cynhaliaeth uwch.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.