Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rheoli sŵn


Mae llygredd sŵn yn dod mewn amryw ffurf - o gerddoriaeth uchel eich cymdogion drws nesa i gŵn yn cyfarth neu sŵn o ffatri gyfagos.

Mewn ymateb i ddatblygiadau yn y dechnoleg a ddefnyddir mewn perthynas â ffonau ‘clyfar’ neu Android ac iPhone, mae gan yr Adran Iechyd yr Amgylchedd yn awr y cyfleuster i weithredu Ap Sŵn unwaith y bydd cwyn wedi cael ei chyflwyno’n swyddogol i’r adran hon.

Mae’r Ap Sŵn yn golygu y gall yr Awdurdod Lleol hwn dderbyn cwynion ynghylch sŵn unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos gyda’r cyfleuster i anfon recordiadau byr o’r sŵn neu’r seiniau yn uniongyrchol i’r swyddogion sy’n ymchwilio.

Er mwyn cofrestru eich cwyn ynghylch sŵn a chychwyn y broses hon, defnyddiwch ein Ffurflen Ymholiad Cyffredinol a dewiswch Iechyd yr Amgylchedd.

Rhaid i chi fodd bynnag, gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad, rhif ffôn a’r cyfeiriad y daw’r sŵn ohono ynghyd â disgrifiad o’r math o sŵn yr ydych yn cwyno yn ei gylch. Sylwer os gwelwch yn dda na fydd yr Awdurdod Lleol hwn yn ymchwilio i gwynion dienw.

Unwaith y byddwch wedi anfon yr e-bost, yna gweler y wefan Ap Sŵn (yn Saesneg yn unig)

Mae cyfarwyddyd pellach ar sut i ddefnyddio yr Ap Sŵn i’w weld isod.

Ffurflen Ymholiad Cyffredinol - mae'r ddolen yn agor mewn tab newydd.

Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio porwr gwe â gefnogwyd fel Safari, Google Chrome, Microsoft Edge neu Firefox.

Yn absenoldeb caniatâd, o dan Atodlen 2 Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993, bydd y defnydd o uchelseinydd rhwng 9pm a 8am yn drosedd yn groes i adran 62 Deddf Rheoli Llygredd 1974.

Os ydych yn dymuno defnyddio uchelseinydd yn y stryd rhwng 9pm a 8am (ar gyfer digwyddiadau cerddorol er enghraifft) rhaid i chi wneud cais i’n cynllun caniatâd uchelseinydd yn y lle cyntaf.

Nid oes gan yr awdurdod lleol unrhyw awdurdod, o dan Adain 79 (6) o’r Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, dros sŵn o awyrennau (heblaw modelau).

Ceir rhagor o wybodaeth am sŵn o Maes Awyr y Fali a Maes Awyr Mona drwy ddilyn y ddolen  i wefan GOV.UK

Yn unol â’r Caniatâd Cynllunio ar gyfer Trac Môn, rhaid i’r sawl sy’n rhedeg y busnes weithredu System Rheoli Sŵn sy’n cynnwys monitro sŵn ar ochr y trac mewn llecyn penodol.

Rhaid rhoi pob digwyddiad sydd wedi ei drefnu mewn categori defnydd a’i gofnodi mewn dyddiadur sŵn. Ar ôl cynnal bob digwyddiad, rhaid diweddaru’r dyddiadur swydd gyda manylion am y sŵn gwirioneddol a gofnodwyd gan y sawl sy’n rhedeg y trac. Gellir cael copi o’r dyddiadur sŵn drwy ddilyn y linc i safle we Trac Môn.

Cyfyngir ar y sawl sy’n rhedeg y Trac i’r nifer isod o ddigwyddiadau bob blwyddyn:

  • Achlysuron annisgwyl = 6 diwrnod
  • Diwrnodau Categori 1 = 50 diwrnod
  • Diwrnodau Categori 2 = 100 diwrnod
  • Diwrnodau Categori 3 = Dim cyfyngiad

Caiff defnydd o’r trac gan gerbydau modur ar ddiwrnodau achlysuron annisgwyl a diwrnodau Categori 1 a 2 ei gyfyngu i 3 diwrnod mewn unrhyw wythnos “dreigl” ac eithrio ar 1 o hyd at 4 diwrnod mewn blwyddyn lle mae’r trac wedi rhoi 21 diwrnod o rybudd ymlaen llaw i’r awdurdod lleol o ddefnydd o’r fath.

Mae cyfyngiadau eraill hefyd mewn perthynas ag amseroedd gweithredu a gellir cael cyngor pellach trwy gysylltu gyda’r Adain Iechyd yr Amgylchedd.

Mae’r amod sŵn yn berthnasol i 1, 3 5 a 7 Porth Cwyfan, ond caniateir i’r trac ddefnyddio lleoliad monitro arall wrth ochr y trac gyda’r lefelau sŵn wrth ochr y trac yn cael eu gosod i gyd-fynd â’r amod sŵn ym Mhorth Cwyfan. 

Manteision hyn yw bod llai o ffynonellau eraill yn amharu ar lefelau’r sŵn yn y trac ac nid ydynt yn cael eu heffeithio gan y gwynt. 

Mae’r tabl isod yn dangos y cyfyngiadau sŵn wrth ochr y trac.

Lefeau LAeq 1 awr

Categori 1 Nifer diwrnodau Wrth ochr y trac

Achlysuron annisgwyl   

6

>63dB

>89dB

Categori 1

50

63dB

89dB

Categori 2

100

58dB

84dB

Categori 3

Dim cyfyngiad    

51dB      

77dB    

 

Bob blwyddyn, mae’r Adain Iechyd yr Amgylchedd yn derbyn nifer o gwynion ynghylch larymau lladron sy’n canu ac sy’n creu niwsans sŵn ac yn amharu ar gwsg pobl os yw hynny’n digwydd yn y nos.

Mae’r mwyafrif o’r cwynion yn ymwneud â larymau sy’n mynd i ffwrdd yn ddamweiniol oherwydd diffygion neu oherwydd bod anifeiliaid anwes wedi cyffwrdd â nhw.

Yn unol â Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae’n ddyletswydd ar gynghorau i ddelio gydag unrhyw sŵn os yw’n fodlon ei fod yn creu niwsans statudol. O’r herwydd, gellir delio gyda larymau lladron sy’n canu drwy’r amser ac sy’n creu niwsans statudol yn unol â’r trefniadau gorfodaeth sydd ar gael i’r cyngor.

Fel rhan o’r trefniadau hyn, bydd y cyngor yn cyflwyno ‘Rhybudd Atal Sŵn’ ac yn gwneud trefniadau gyda’r ynad lleol i gael gwarant i fynd i mewn i’r eiddo lle mae’r larwm yn canu.  Bydd y cyngor angen gwasanaeth saer cloeau a pheiriannydd cynnal larymau er mwyn tawelu’r larwm i’w rhwystro rhag achosi niwsans sŵn pellach i drigolion sy’n byw gerllaw.

Bydd perchennog yr eiddo yn gorfod ad-dalu i’r cyngor unrhyw gostau y bu’n rhaid iddo fynd iddynt i dawelu’r larwm. 

Trwy ddilyn y camau isod, gellwch osgoi’r posibilrwydd y bydd eich larwm lladron chi yn achosi problemau sŵn yn eich ardal ac y byddwch chi’n gorfod talu costau’n ddiangen.

  • sicrhewch fod eich larwm yn cael ei osod gan beiriannydd larymau cymwys
  • edrychwch ar ôl eich larwm - sicrhewch ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw
  • sicrhewch fod gan eich larwm ddyfais tawelu (ar ôl 20 munud) i’w rwystro rhag canu am gyfnodau maith
  • cofrestrwch eich larwm gyda’r awdurdod hwn drwy ddefnyddio Ffurflen Cofrestru Larwm sydd ar gael i'r lawrlwytho isod
  • Drwy gofrestru eich larwm gyda’r cyngor, bydd modd i’r cyngor, petai’r larwm yn datblygu diffyg neu’n mynd i ffwrdd yn ddamweiniol, gysylltu gyda’r sawl yr ydych chi wedi eu cofrestru fel deiliaid goriadau  fel y gallent hwy droi’r larwm i ffwrdd os ydych chi oddi cartref heb achosi unrhyw gost neu anhwylustod i chi.

Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n drosedd tanio tân gwyllt yn ystod oriau’r nos (11pm i 7am) ac eithrio ar Noson Tân Gwyllt (hanner nos), Diwali, Y Flwyddyn Newydd a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd (1am).

Gellir cael gwybodaeth bellach trwy ddilyn y ddolen i safle we GOV.UK.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.