Ac eithrio Mynydd Parys ger Amlwch, nid yw hanes diwydiannol Ynys Môn yn awgrymu fod rhannau helaeth o dir wedi’i lygru. Y mae’r defnydd tir cyfredol yn fwy tebygol o fod wedi achosi llygredd.
Ymysg yr enghreifftiau o ffynonellau llygredd mae: gorsafoedd petrol, gweithfeydd cemegol, ffatrïoedd ordnans, gweithfeydd metel a gweithgareddau eraill o’r fath sy’n gwneud defnydd diwydiannol o dir.
Prif amcanion y cyngor wrth ddelio â thir llygredig fydd:
- gwarchod iechyd dynol
- gwarchod dyfroedd rheoledig
- atal difrod i eiddo
- atal tir rhag cael ei lygru ymhellach
- annog mesurau gwirfoddol i “lanhau” tir llygredig
- annog ailddefnyddio tir llygredig, neu “dir brown” fel y’i gelwir weithiau.
Datblygu Tir sydd wedi’i Halogi: Canllaw i Ddatblygwyr
Mae’r canllaw hwn wedi’i baratoi i ddatblygwyr a’u hasiantau/ymgynghorwyr a allai fod yn rhan o asesu a rheoli tir halogedig yng Nghymru. Ei nod yw amlinellu’r wybodaeth sydd ei hangen ar Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl) er mwyn iddynt allu penderfynu ar geisiadau cynllunio a chyflawni’r amodau halogi tir cysylltiedig. Mae’r canllaw hwn yn cynnig trosolwg o arfer da ar gyfer gweithdrefnau rheoli halogi tir a fydd yn helpu i fodloni gofynion gwybodaeth yr ACLl wrth ddatblygu’r tir hwnnw, os cânt eu dilyn.
Ar bob adeg, cyfrifoldeb y datblygwr yw dilyn arferion da a nodi natur, maint a graddfa’r tir yr effeithir arno gan halogi ac, os oes angen, gyflawni gwaith adfer i sicrhau bod y tir yn addas ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Nid oes gan yr ACLl ddyletswydd gofal i’r tirfeddiannwr.