Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (ARhLl)


Yn unol â Rheoliadau ArhLl mae’n rhaid i’r holl brosesau a benodir yn atodlen 1 i’r rheoliadau weithredu dan system drwydded.

Mae prosesau yn disgyn i wahanol gategorïau o weithgareddau sef A1, A2 a Rhan B ac fe benderfynir y rhain yn aml yn unol â rhai trothwyon capasiti penodol ee y defnydd a wneir o doddyddion bob blwyddyn:

  • Rheoli ac Atal Llygredd mewn modd integredig (IPCC) sy’n cynnwys gweithfeydd a elwir yn Weithfeydd A(1) a reolir gan Asiantaeth Yr Amgylchedd
  • Rheoli ac Atal Llygredd maen modd integredig gan yr awdurdod lleol (LA-IPPC) sy’n cynnwys gweithfeydd fel Gweithfeydd A(2) a reolir gan awdurdodau lleol
  • Rheoli ac Atal Llygredd gan yr Awdurdod Lleol (LAPPC), sy’n cynnwys gweithfeydd a elwir yn Weithfeydd Rhan B– rheolir y rhain hefyd gan awdurdodau lleol.

Mae’n rhaid i weithredwyr rhai gweithfeydd diwydiannol a gweithfeydd eraill gael trwydded i weithredu.  Unwaith y bydd gweithredwr wedi cyflwyno cais am drwydded mae’r corff rheoli yn penderfynu a ddylid cyhoeddi trwydded.  Os rhoddir trwydded bydd hi’n cynnwys amodau ar gyfer gostwng ac atal llygredd  i lefelau derbyniol.  Ystyir yn gyffredinol fod gan weithfeydd A(1) fwy o botensial i lygru’r amgylchedd na gweithfeydd A(2) a gweithfeydd Rhan B sydd gyda’r potensial lleiaf i lygru. 

I weld y fersiwn swyddogol o’r rheoliadau, gweler y tab “gwefannau” uchod.

Y prif wahaniaeth rhwng gweithgareddau Rhan A a B yw bod amodau’r drwydded ar gyfer gweithgareddau Rhan A yn rheoli’r gollyngiadau i’r aer, i ddwr ac i dir ynghyd â nifer o faterion eraill; nid yw trwyddedau ar gyfer gweithgareddau rhan B ond yn ymwneud ag allyriadau i’r aer.  Mae llawlyfr Arweiniad cyffredinol yr Ysgrifennydd Gwladol ar Bolisi a Threfniadau ar gyfer gweithfeydd A a B (“ y llawlyfr” ) ar gael ar wefan Defra.

Dalwyr trwydded

Am restr o ddalwyr trwydded, rydym wedi darparu PDF i’w lawrlwytho.

nogir ymgeiswyr i gysylltu â’r Adain Gwasanaethau Amgylcheddol mewn da bryd cyn gwneud cais.

Mae copi Cymraeg a Saesneg o’r ffurflenni cais perthnasol ar gael. Gellwch gael copi electronig neu gopi papur.  Rhaid i geisiadau gynnwys 4 copi o’r ffurflen gais (pob un gyda llofnod gwreiddiol) ynghyd â’r ffi briodol.

I gael manylion llawn am y broses ymgeisio, cysylltwch os gwelwch yn dda gydag Adain Llygredd yr Adain Gwasanaethau Amgylcheddol neu cyfeiriwch at lawlyfr DEFRA

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.