Yn unol â Gorchymyn (Cŵn yn Baeddu Tiroedd) Ynys Môn 1997 cyflawnir trosedd oni fydd perchenogion cŵn yn clirio i fyny wedi i’w cŵn faeddu unrhyw dir sy’n dir penodedig.
Oni fyddwch yn clirio i fyny ar ôl eich ci efallai y byddwch yn cael dirwy sefydlog o £75 neu’n cael eich erlyn yn y llys a allai olygu dirwy o hyd at £1000. I’r bag, i’r bin!
Ydi hi’n drosedd bob amser i beidio â chlirio i fyny ar ôl eich ci?
- gwneir eithriad ar gyfer pobl sydd wedi eu cofrestru’n ddall
- nid yw’n drosedd os oes gennych esgus rhesymol
Beth sydd ddim yn esgus rhesymol?
- nid yw dweud nad oeddech yn gwybod bod eich ci wedi baeddu yn esgus rhesymol.
- nid yw dweud nad oes gennych ffordd addas o gael gwared ar y carthion (bag plastig,’ poop scoop’ ac ati) yn esgus rhesymol.
- nid yw dweud nad oes bin gwastraff cwn, bin sbwriel neu gynhwysydd addas arall ar gael yn esgus rhesymol.
Yn lle mae’r gorchymyn yn berthnasol?
Yn amodol ar yr eithriadau a nodir isod, mae’r gorchymyn yn berthnasol i’r holl diroedd agored yn Ynys Môn y mae gan y cyhoedd hawl i fod arnynt (p’un a ydynt yn talu i gael mynediad neu beidio). Mae hyn yn cynnwys llecynnau chwarae a chaeau chwarae mewn ysgolion, caeau chwarae eraill, llefydd chwarae, llecynnau adloniant mewn parciau, meysydd parcio cyhoeddus, safleoedd picnic, promenadau, gerddi cyhoeddus, iardiau eglwysi, mynwentydd a’r rhan fwyaf o draethau.
Eithriadau:
- lonydd gyda chyfyngiad cyflymdra o dros 30 mya a’r tir o boptu iddynt
- tir a ddefnyddir ar gyfer amaeth neu diroedd coediog
- tir sydd yn bennaf yn dir corsiog, rhostir neu waun
- tir comin gwledig
- tir preifat nad yw’r perchennog yn dymuno iddo gael ei gynnwys
Nid yw’r gorchymyn yn berthnasol i erddi preifat, dreifiau ac ati gan nad ydynt ar gyfer mynediad cyffredinol.
Beth ddylwn i ei wneud onid wyf yn siwr?
Cymerwch fod y gorchymyn yn berthnasol a chliriwch i fyny ar ôl eich ci!
Am ragor o wybodaeth ynghylch materion cŵn yn baeddu, Cynllun Cofrestru Cŵn Gwirfoddol a materion eraill sy’n ymwneud â bod yn berchen ar gi cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd, Ffôn: (01248) 750057
-
Polisi cŵn yn baeddu
Lluniwyd y polisi hwn i roi gwybodaeth ynghylch sut y bydd yr Adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymateb i gwynion am gwn yn baeddu mewn mannau cyhoeddus.
-
Sut ydw i yn rhoi gwybod am achosion o gŵn yn baeddu?
Cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Ynys Môn.
-
Toxacara (llyngyr)
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi taflen i godi ymwybyddiaeth perchenogion cwn, am yr effeithiau posibl y gallai baw cwn sydd wedi ei heintio gyda’r llyngyr toxocara ei gael ar iechyd.