Cynlluniau a pholisïau a gafodd eu disodli ar 31 Gorffennaf 2017
Yr Hen Fframwaith Cynllunio Presennol Ynys Môn
Roedd yr hen fframwaith Polisi Cynllunio ar gyfer Ynys Môn yn cynnwys Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993) ynghyd a Chynllun Lleol Ynys Môn (1996).
Roedd Cynllun Fframwaith Gwynedd yn rhoi’r canllaw strategol ar gyfer datblygiad yn Ynys Môn ar gyfer y cyfnod 1991 hyd at 2006. Roedd Cynllun Lleol Ynys Môn yn dehongli’n fanylach y polisïau hynny sydd yn y Cynllun Fframwaith ac yn cael ei gefnogi gan gyfres o fapiau cynigion.
Cynllun Datblygu Unedol
Yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, roedd yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio yng Nghymru baratoi Cynllun Datblygu Unedol (CDU) ar gyfer yr ardal Awdurdod cynllunio Lleol.
Fe gychwynnwyd ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer Ynys Môn, cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ar y ddogfen ac fe dderbyniwyd yr Adroddiad yr Arolygydd yn gysylltiedig â hynny. Fodd bynnag mewn cyfarfod o’r cyngor sir ar 1 Ragfyr 2005 penderfynwyd rhoi’r gorau i weithio ar Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (CDU) a symud ymlaen i weithio ar y Cynllun Datblygu Lleol.
Rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am y penderfyniad hwnnw, a gofynnwyd am ganiatâd i drosglwyddo a symud ymlaen i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol fel y mae hwnnw’n cael ei gyflwyno dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu trwy Orfodaeth 2004.
Polisïau Cynllunio Dros Dro
Dyma’r ddau Polisi Dros Dro a gafodd eu disoldi gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sef:
- Safleoedd Mawr; ac
- Clystyrau Gwledig