Yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, roedd yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio yng Nghymru baratoi Cynllun Datblygu Unedol (CDU) ar gyfer yr ardal Awdurdod cynllunio Lleol.
Fe gychwynnwyd ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer Ynys Môn, cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ar y ddogfen ac fe dderbyniwyd yr Adroddiad yr Arolygydd yn gysylltiedig â hynny. Fodd bynnag mewn cyfarfod o’r cyngor sir ar 1 Ragfyr 2005 penderfynwyd rhoi’r gorau i weithio ar Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (CDU) a symud ymlaen i weithio ar y Cynllun Datblygu Lleol.
Rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am y penderfyniad hwnnw, a gofynnwyd am ganiatâd i drosglwyddo a symud ymlaen i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol fel y mae hwnnw’n cael ei gyflwyno dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu trwy Orfodaeth 2004.
Mae’n bosib defnyddio’r Cynllun Datblygu Unedol Wedi ei Stopio (2005) fel ystyriaeth gynllunio faterol (sydd yn cynnwys argymhelliad yr Arolygydd) yn sgil y cyfnod aeddfed a gyrhaeddwyd yn y broses o’i baratoi.