Yn dilyn mabwysiadu CDLl ar y Cyd mae’r Cynghorau yn y broses o baratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar bynciau gwahanol. Mae CCA yn ehangu ar yr egwyddorion polisi a gynhwysir o fewn y CDLl ar y Cyd ac yn cynnig arweiniad i ymgeiswyr ynghyd a Swyddogion wrth asesu ceisiadau cynllunio.
Mae’r ddogfen ganlynol yn rhoi ychwaneg o eglurder ynglŷn a broses o baratoi Canllawiau Cynllunio Atodol:-
Canllawiadu Cynllunio Atodol Mabwysiedig - Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
Mae’r Canllawiau canlynol wedi bod trwy gyfnod o ymgynghori cyhoeddus ac wedi cael eu mabwysiadu gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Canllawiau Cynllunio Atodol Mabwysiedig – cynlluniau datblygu blaenorol
Ynghyd â phenderfyniad y Cynghorau i fabwysiadu’r CDLl ar y Cyd penderfynwyd y byddai’r Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu mabwysiadu i gefnogi’r hen Gynllun Datblygu Unedol yn parhau i fod yn ystyriaeth gynllunio faterol, wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle mae’n briodol, nes eu bod yn cael eu disodli gan rai newydd neu’n cael eu tynnu’n ôl.
Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol Mabwysiedig canlynol yn berthnasol wrth ystyried a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn Ardal Awdurdod Cynllunio Ynys Môn:-
- Siopau Gwerthu Prydau Poeth
- Llety Gwyliau
- Safonau Parcio
- Canllawiau Cynllunio Rhanbarthol Gogledd Cymru
- Ynni Gwynt ar y Tir (2013)
- Canllawiau Dylunio yr Amgylchedd Adeiledig, Gwledig a Threfol