Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gorsaf Niwclear yn Wylfa: Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)


Yr Adeilad Niwclear Newydd yn Wylfa: Fe gynhyrchwyd a mabwysiadwyd y Canllawiau Cynllunio Atodol gan Gyngor Sir Ynys Môn (CSYM) ym mis Gorffennaf 2014. Gan fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (JLDP) eto i gael ei fabwysiadu, cynhyrchwyd y CCA er mwyn llenwi’r bwlch hwn mewn polisi. Galluogodd hyn CSYM i ddylanwadu a hysbysu penderfyniadau strategol Pŵer Niwclear Horizon (Horizon), darparodd y sail ar gyfer ymateb y Cyngor Sir i ymgynghoriadau statudol Horizon (PAC 1, 2 a 3) a darparodd fframwaith polisi cadarn i CSYM allu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw geisiadau cynllunio (yn ogystal â’r DCO ei hun). 

Fodd bynnag, ers mabwysiadu’r CCA yn 2014, gwelwyd nifer o newidiadau sylfaenol sydd bellach wedi arwain at yr angen i adolygu a diweddaru’r CCA. Ceir amlinelliad manylach o’r rhain isod: 

  1. Newidiadau Polisi – Mabwysiadwyd y JLDP yn ffurfiol gan CSYM ar 31 Gorffennaf 2017. Mae’r CCA presennol felly wedi dyddio gan ei fod yn cyfeirio ar y Cynllun Datblygu blaenorol. Er mwyn cysondeb ac aliniad, mae angen diweddaru’r CCA i adlewyrchu polisïau’r JLDP diweddaraf. Bydd hyn yn sicrhau bod gan CSYM fframwaith polisi cadarn er mwyn gallu gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag unrhyw geisiadau cynllunio TCPA sy’n gysylltiedig â’r adeilad niwclear newydd ac er mwyn tanategu ymateb CSYM i’r broses o ymgeisio am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO). 
  1. Newidiadau Deddfwriaethol – Ers mabwysiadu’r CCA ym mis Gorffennaf 2014, gwelwyd nifer o newidiadau deddfwriaethol pwysig sydd wedi newid rôl CSYM yn y broses ganiatâd statudol. Y mwyaf nodweddiadol yw Deddf Cymru 2107, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017. Mae hyn yn galluogi hyrwyddwyr prosiect (h.y. Horizon) i gynnwys datblygiadau cysylltiedig (megis y maes parcio a theithio, llety gweithwyr dros dro ac ati) o fewn y cais DCO. Mae angen diweddaru’r CCA i adlewyrchu’r newid diweddaraf hwn i’r ddeddfwriaeth. Mae hefyd angen i ddeddfwriaethau allweddol newydd eraill megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016 gael eu hadlewyrchu yn y CCA diwygiedig. 
  1. Diweddariadau Prosiect – Mae Pŵer Niwclear Horizon (Horizon) wedi cynnig nifer o ddiweddariadau i’r prosiect ers mabwysiadu’r CCA yn 2014. Y newid mwyaf sylweddol i’r prosiect yw penderfyniad Horizon i gynyddu maint y llety dros dro i weithwyr ar y safle o 500 gweithiwr hanfodol yn byw ar y safle i 4,000 o weithwyr yn byw ar y safle mewn campws pwrpasol dros dro. Mae angen i’r newid gael ei adlewyrchu yn CCA CSYM er mwyn i CSYM allu ymateb yn ddigonol i’r cynigion hyn. Mae manylion pellach ac eglurder ar ddatblygiadau cysylltiedig eraill Horizon (megis y parcio a theithio yn Dalar Hir, Canolfan Logisteg ym Mharc Cybi ac ati) hefyd yn golygu bod angen i’r adrannau hyn o’r CCA gael eu diweddaru. 

Mae CCA yn ffordd o osod arweiniad thematig mwy manwl neu benodol i’r safle ar y ffordd y mae’r polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd i gael eu dehongli a’u gweithredu mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol. Nid yw CCA yn ffurfio rhan o’r cynllun datblygu ond mae’n rhaid iddo fod yn gyson â’r cynllun a’r polisi cenedlaethol. Rhaid i’r CCA ddeillio o a chael ei groesgyfeirio’n glir â pholisi generig yn y JLDP, polisi penodol neu ddynodiad cynllun. 

I grynhoi felly, nid yw’r CCA ei hun yn cynnwys “polisi”, rhaid ei groesgyfeirio â’r JLDP ac mae’n rhaid iddo gynnwys ‘meini prawf procsi’ a ddylai fod yn y JLDP. Fe ddylai’r CCA gynnwys arweiniad a chyngor gan y Cyngor o ran beth mae’n ddisgwyl gan ddatblygwyr / hyrwyddwyr prosiect. 

Gan ystyried graddfa a chymhlethdod prosiect Wylfa Newydd, mae CSYM o’r farn bod angen CCA i ddarparu cyngor ac arweiniad i Horizon ac unrhyw ymgeiswyr trydydd parti eraill ar sut i weithredu’r polisi. Mae hefyd yn gosod allan yn glir beth yw disgwyliadau’r Cyngor mewn perthynas â chais Wylfa Newydd. 

Mae’r CCA hwn yn ddiwygiad o’r CCA blaenorol a fabwysiadwyd yn ffurfiol gan y Cyngor yng Ngorffennaf 2014. Gan fod y Cyngor wedi defnyddio’r CCA er mwyn hysbysu a thanategu ei ymateb i ymgynghoriadau PAC1, PAC2 a PAC3, roedd yn bwysig sicrhau’r parhad hwn yn y cyfnod yn arwain at yr Archwiliad DCO. Mae’r CCA hwn felly wedi’i ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r polisi, newidiadau deddfwriaethol a newidiadau i’r prosiect fel y disgrifir uchod ac nid yw’n CCA ‘newydd’. 

Cafodd y CCA diwygiedig hwn ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cyngor Llanw ar yr 15fed o Fai, 2018 yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus (11 Ionawr – 22 Chwefror 2018).