Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwneud cais am rheoli adeiladu


Sut i wneud cais

Os yw eich gwaith adeiladu’n destun i’r Rheoliadau Adeiladu, gallwch gwblhau’r ffurflen cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Mae dwy ffordd o ymgeisio:

  • adneuo’r cynlluniau llawn
  • rhoi rhybudd adeiladu

Beth yw’r gwahaniaeth?

Cynlluniau llawn

Am gais cynlluniau llawn, mae’n rhaid cynhyrchu cynlluniau sy’n dangos yr holl fanylion lluniadol, gorau oll cyn i chi ddechrau adeiladu. Bydd y cais yn cael ei wirio’n ofalus iawn gennym ac mae’n bosibl y byddwn y gofyn i chi wneud gwelliannau i’r cynlluniau cyn rhoi cymeradwyaeth. Mae’n bosibl y byddwn yn ychwanegu amodau at gymeradwyaeth, gyda chytundeb ysgrifenedig gennych.

Rhybudd adeiladu

Archwilir y gwaith adeiladu wrth iddo fynd yn ei flaen, gyda’r weithdrefn Rhybudd Adeiladu. Bydd y syrfëwr rheoli adeiladu’n eich cynghori, os na fydd y gwaith yn cydymffurfio ar unrhyw gyfnod â’r rheoliadau. Fodd bynnag, os bydd angen gwybodaeth bellach ynghylch eich cynnig ar unrhyw adeg, un ai cyn y dyddiad dechrau neu yn ystod yr adeiladu, byddwn yn gofyn i chi ddarparu’r manylion ar ein cyfer. Mae’n rhaid i chi deimlo’n hyderus bydd y gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau, neu byddwch yn mentro gorfod ei gywiro ar gais y cyngor.

Ffioedd

Ewch i ffioedd a thaliadau

Sut i dalu

Dylid cyflwyno’r ffi gyda’ch cais. Gellir ei dalu yn y dulliau canlynol:

    • Defnyddio ein sustem talu ddiogel
  • Cerdyn credyd/debyd trwy ffonio 01248  752 428 
  • Drwy BACS (cysylltwch â ni am fanylion BACS ar 01248 752 428)

Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y ffi gywir, cysylltwch â’r adran gan na ellir cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’ch cais tan y bydd y ffi gywir wedi ei derbyn. 

Os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu adnewyddu, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a gallai fod dyletswyddau eraill gennych hefyd.

Am mwy o wybodaeth ar reoliadau cynllunio a rheoli adeiladau, gwneud cais ar lein am hawl cynllunio, apelio yn erbyn penderfyniad a darganfod mwy am ddatblygiadau gweler safle we y Porth Cynllunio