Y Gwasanaeth Cynllunio: Rheoli Cynllunio
-
Ynglyn â
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
-
Gwefannau
Mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth ar y broses cynllunio gan gynnwys cymorth a ffurflenni cais.
Gwelwch hefyd restrau wythnosol o geisiadau cynllunio; dysgwch fwy am apeliadau cynllunio a gorfodi a cewch wybodaeth ar sut i wneud sylw ar gais cynllunio. Gweler hefyd rhestr o cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion - rhaglenni, adroddiadau a chofnodion.
Byddwch yn falch o wybod fod rhyw 90% o geisiadau cynllunio yn cael eu cymeradwyo. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall datblygiad newydd fod yn bwnc llosg a gofyn am sylw gofalus. Mae’r Gwasanaethau Cynllunio yma i wasanaethu Ynys Môn ac rydym yn sicr y gallwn gael datblygiad o’r ansawdd uchaf trwy weithio gyda’n cwsmeriaid.
Ein hamcan yw cysoni anghenion pobl gydag anghenion datblygu a chadwraeth. Trwy wneud hyn rydym yn ymdrechu am ansawdd mewn dyluniad adeiladau ac yn y modd byddwn yn gweithredu’r gwasanaeth. O fewn y gwasanaeth mae dau dîm pwrpasol gyda staff proffesiynol sydd yn ymrwymedig a darparu gwasanaeth a chyngor o’r ansawdd gorau posib ar gyfer y cyhoedd.
Chwilotwch drwy lyfrgell gofnodion y cyngor er mwyn darganfod pa bynciau y trafodwyd yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Mae’r pdf uchod yn dangos yr ardaloedd cynllunio ar gyfer yr Ynys, ynglyn â’r tîm priodol a’r manylion cyswllt.
Gweler hefyd y Siarter i Gwsmeriaid Rheoli Cynllunio yn llawn uchod.
Datblygiad a Risg Llifogydd
O 1 Ebrill 2018 am gyfnod cychwynnol o 6 mis, bydd Cyngor Sir Ynys Môn, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn rhedeg cynllun peilot mewn perthynas â delio gyda cheisiadau am ddatblygiadau sy’n cael eu categoreiddio fel rhai sy’n hynod agored i risg llifogydd fel y diffinnir hynny yn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Risg Llifogydd.
Yn yr adain yma
MapMôn
Mae ein hadain mapio newydd yn darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth sy’n gysylltiedig â’ch cyfeiriad a’r ardal gyfagos.
Pwyllgor Cynllunio a Gormchmynion
Gellir edrych ar rhestr o gyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Edrychwch ar rhestr o geisiadau cynllunio cyfoes a blaenorol
Gellir edrych ar y rhestrau wythnosol o geisiadau cynllunio yn yr adran hon.
Sylwch neu gwrthwynebu ar gais cynllunio
Gall bwy bynnag sydd am gefnogi neu wrthwynebu cais cynllunio wneud sylwadau.
Angen caniatâd cynllunio?
Pryd mae angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio?
Y cyhoedd yn siarad yn y pwyllgor
Fe allwch wneud cais i siarad yn y cyfarfod os bydd hynny’n bodloni popeth sy’n cael ei nodi yma.
Cyn i chi wneud cais
Dylech ystyried manteision cael cyngor arbenigol cyn cyflwyno eich cais cynllunio.
Gwneud cais cynllunio
Rydych wedi ystyried y materion sy’n effeithio ar y broses ddylunio ac wedi cael yr holl gyngor arbenigol angenrheidiol a rydych chi, neu eich asiant, yn barod i gyflwyno eich cais cynllunio.
Penderfyniadau cynllunio
Hysbysiadau Penderfyniad yw’r hysbysiad ffurfiol o’n penderfyniad ar gais. Mae hysbysiad o benderfyniad yn amlinellu i’r ymgeisydd os yw cais wedi cael ei ganiatáu neu ei wrthod.
Apeliadau cynllunio
Mae’r tudalennau canlynol yn cynnig arweiniad byr i apeliadau cynllunio - os ydych angen arweiniad mwy manwl ystyriwch cael cyngor annibynnol gan syrfewr neu gynllunydd gwlad a thref.
Datblygiadau Ynni Mawr
Mae yna nifer o ddatblygwyr sector preifat ar hyn o bryd yn bwriadu datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy carbon isel ym Môn.
Gorfodi cynllunio
Yn aml bydd y gwasanaeth cynllunio’n derbyn cwynion bod datblygiad wedi digwydd heb ganiatâd cynllunio neu nad yw’r gwaith a wnaed yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd.
Cytundeb Perfformiad Cynllunio
Proses rheoli prosiect ar y cyd er mwyn delio gyda phrosiectau mawr.
Rheoli adeiladu
Os ydych am wneud gwaith adeiladu ar eiddo efallai bydd rhaid i chi gydymffurfio a’r rheolau adeiladau.
Ceisiadau datblygu economaidd
Bydd y gwasanaeth cynllunio yn rhoddi blaenoriaeth i ddelio gyda cheisiadau cynllunio y mae iddynt botensial o safbwynt datblygu economaidd.
Gwasanaeth cwsmer cynllunio
Mae’r Pwyllgor Cynllunio wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon uchel.
Mwynau
Mae gan Ynys Môn ystod eang o gyfoeth mwynol a bydd raid i waith datblygu sydd ei angen i sicrhau adnoddau mwynol dderbyn caniatâd cynllunio cyn dechrau unrhyw waith.