Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyngor cyn gwneud cais


Cyngor defnyddiol ar sut i wneud cais am fathau amrywiol o ganiatâd cynllunio ynghyd â cyngor cyn gwneud cais.

Er mwyn adlewyrchu’r cynnydd yn y costau sy’n gysylltiedig a darparu’r gwasanaeth bydd ffioedd yn cael eu codi ar gyfer rhai dosbarthiadau o Gyngor Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio. Dilynwch y ddolen ar gyfer rhestr y ffioedd.

Mae’n werth cael trafodaeth gynnar a deallus cyn gwneud cais hefyd i ddatrys unrhyw broblemau cyn gwneud y cais cynllunio ei hun.

Pryd mae angen i mi wneud cais am ganiatâd cynllunio?

Mae angen cael caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer sawl math o ddatblygiad.  Mae enghreifftiau posibl yn cynnwys:

  • y rhan fwyaf o adeiladau newydd y bwriedir eu codi
  • ymestyn neu newid adeiladau presennol
  • newid defnydd tir neu adeiladau (e.e. newid ty yn fflatiau neu newid adeilad fferm yn breswylfa)
  • gwaith peirianegol neu waith arall ar dir

Fodd bynnag nid oes rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau.  Fel rheol nid oes angen cael caniatâd cynllunio er mwyn newid tu mewn adeilad heb effeithio ar olwg allanol yr adeilad, gwneud rhai mathau o waith allanol bychan, neu’r rhan fwyaf o waith atgyweirio a chynnal a chadw.  Caniateir newid defnydd cyfyngedig hefyd o bosibl.

Mae’r gwasanaeth wedi llunio holeb i’ch galluogi chwi benderfynu os ydych angen caniatâd cynllunio ai peidio. Gellir llwytho hon i lawr fel y gallwch ei chwblhau a’i phostio i’r adain lle byddwn ni yn gwneud ein gorau i ymateb ar unwaith. 

Gweler, os gwelwch yn dda, y cyswllt atodiadau yng ngwaelod y tudalen i lawrlwytho’r holeb. Am wybodaeth bellach prun a ydych angen caniatad cynllunio ai peidio, dilynwch y cyswllt i’r Porth Cynllunio, os gwelwch yn dda.

Sut ydw i’n talu?

Dylid cyflwyno’r ffi gyda’ch cais. Gellir ei dalu yn y dulliau canlynol:

  • Defnyddio ein sustem talu ddiogel
  • Cerdyn credyd/debyd trwy ffonio 01248  752428. 
  • Drwy BACS (cysylltwch â ni am fanylion BACS ar 01248 752428)

Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y ffi gywir, cysylltwch â’r adran gan na ellir cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’ch cais tan y bydd y ffi gywir wedi ei derbyn. Mae gan y Porthol Cynllunio gyfrifiannell ffioedd rhyngweithiol er mwyn eich cynorthwyo ymhellach i gyfrifo’r ffi gywir.

Cymerwch ofal!

Os ydyw rhywun yn codi adeilad y mae angen caniatâd cynllunio iddo neu ganiatâd dan y rheoliadau adeiladu ac yn gwneud hynny heb gael caniatâd angenrheidiol yn y lle cyntaf mae’n bosib y bydd raid cywiro pethau yn hwyrach ymlaen, a gallai hynny fod yn drafferthus iawn ac yn eithriadol o gostus. Efallai y bydd raid dymchwel y gwaith adeiladu - yr enw ar y math hwn o weithredu yw “Gorfodaeth”. 

Asiantiaid proffesiynol

Mae’n arfer cyffredin i benodi asiant proffesiynol i weithredu ar eich rhan. Bydd cyrff neu sefydliadau proffesiynol y cynllunwyr, y penseiri a’r syrfewyr siartredig i gyd yn cynhyrchu rhestri aelodau y gallwch ymgynghori â hwy os byddwch angen cyngor arbennig.

Cefnogi busnes

Os oes gan eich prosiect oblygiadau economaidd neu gyflogaeth eraill, mae modd gwneud trefniadau i chi gyfarfod cynghorwyr o Ganolfan Busnes Ynys Môn. Gallant gynorthwyo gyda chyngor ar gyfundrefnau grant, grantiau busnes, cronfeydd hyfforddiant, ac ati, all fod yn berthnasol i’ch prosiect. Am ragor o fanylion, cysylltwch â’r adran Economaidd.

Grantiau adnewyddu tai

Mae eich cais am grant i adnewyddu eich ty yn cael sylw yn yr Adran Dai. Fodd bynnag, efallai y bydd arnoch angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd dan y rheoliadau adeiladu, neu efallai y bydd arnoch angen caniatâd dan y ddwy system. Chwi sy’n gyfrifol am benderfynu pa un ai caniatâd cynllunio neu ganiatâd dan y rheoliadau adeiladu y mae arnoch ei angen a rhaid cael hwnnw cyn dechrau gweithio.

Cymorth Cynllunio Cymru

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen annibynnol sy’n darparu cyngor a chefnogaeth ar holl agweddau cynllunio defnydd tir yng Nghymru.

Ewch i’r wefan neu ffoniwch y gwasanaeth llinell gymorth cynllunio ar 02920 625 000 am fwy o wybodaeth.