Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Torri rheolau cynllunio


Yn aml bydd y gwasanaeth cynllunio’n derbyn cwynion bod datblygiad wedi digwydd heb ganiatâd cynllunio neu nad yw’r gwaith a wnaed yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd.

Tra nad yw peidio â chyflwyno cais cynllunio yn drosedd ynddo’i hun, mae datblygiad sy’n cael ei wneud heb ganiatâd yn ddiawdurdod ac yn cael ei alw’n dorri rheolaeth gynllunio. Mewn achosion eithafol gallai’r datblygiad fod dan fygythiad ei ddileu neu ddymchwel.

Rhaid i ni ymchwilio holl gwynion gorfodaeth a bydd tîm o swyddogion yn ymateb i bryderon o’r fath. Mae gan y swyddogion Gorfodi pwerau arbennig i ymchwilio i ddefnydd a pherchenogaeth tir ac mae modd cysylltu â gwasanaeth cynllunio.

Lle bydd toriadau rheolaeth gynllunio yn digwydd, mae cyfle i’r rhai sy’n gyfrifol unioni’r cam trwy gyflwyno cais ôl-weithredol am ganiatâd cynllunio. Mewn achosion lle bo’r datblygiad yn dderbyniol dylid rhoi caniatâd.

Beth os oes angen gweithredu?

Wedi ymchwilio i gŵyn gall y cyngor benderfynu fod angen gweithredu’n fwy ffurfiol. Yn gyffredinol bydd hyn ar ffurf naill ai rybudd gorfodi neu rybudd atal. Bydd y naill achos neu’r llall ar sail y dystiolaeth a gasglodd y swyddogion gorfodi ar ôl ymchwilio i gwyn.

Rhybudd gorfodi

Mae’r rhybudd hwn yn mynnu bod torri rheolaeth yn peidio ag yn manylu’r camau sydd eu hangen i normaleiddio’r sefyllfa. 

Rhybudd atal

Ni chaiff y pwer cryf hwn ei ddefnyddio ond mewn nifer cyfyngedig o achosion lle bydd rhywun sydd byth a hefyd yn anwybyddu’r rheolau cynllunio gan achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd a / neu amwynder cyhoeddus/diogelwch y cyhoedd. Byddai gweithred  dan y pwer hwn yn gysylltiedig â chyflwyno rhybudd gorfodi.

Adrodd tor rheolaeth cynllunio

Mae ffurflen ar-lein ar gael i chi adrodd am dor rheolaeth cynllunio.

Dywed Deddf Cynllunio Gwlad a Thref fod angen caniatad cynllunio ar gyfer ‘datblygiad’. Fe elwir datblygiad heb ganiatad yn ‘dor-reolaeth cynllunio’ gan y ddeddf.

Datblygiad

Disgrifir datblygiad yn y ddeddf fel unai ‘datblygiad gweithredol’ (sef adeiladu, peirianwaith, cloddio am fwynau neu gweithrediad arall) neu newid materol o ddefnydd tir. Mae’r ddeddf yn gwneud eithriadau o rai datblygiadau gweithredol a rhai newidiadau o ddefnydd sydd ddim angen caniatad cynllunio arnynt ac mae rhai datblygiadau gweithredol a newid defnyddiau eraill yn cael caniatad tybiedig gan reoliadau’r Llywodraeth, heb orfod gwneud ceisiadau penodol- fe elwir y rhain yn ‘hawliau datblygiad caniataol’. Yn ychwanegol, mae’r llysoedd, tra’n ystyried y ddeddf a’r rheoliadau, wedi gosod rheolau a chanllawiau i’w dilyn.

Mae’r cyngor sir, fel yr awdurdod cynllunio lleol, yn gyfrifol am blismona tor-reolaethau a chymerwyd camau gorfodaeth yn erbyn tor-reolaethau.

Dywed y ddeddf y gall awdurdod cynllunio lleol gymerwyd camau gorfodaeth ‘ble mae’n fanteisiol i wneud hynny’. Golygir hyn nad oes rhaid i’r cyngor sir ymateb ymhob achos o dor-reolaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor i bob cyngor ar sut i ymarfer eu pwerau gorfodaeth. Yn syml, y cyngor i gynghorau yw i gymeryd camau gorfodaeth yn erbyn tor-reolaeth ble mae’r cyngor yn credu fod angen amddiffyn neu warchod yr ardal leol oddiwrth effeithiau andwyol y tor-reolaeth. Yn ogystal mae yna ganllawiau cenedlaethol a gyhoeddir gan Llywodraeth Cymru (fel Cylchlythyrau a Nodiadau o Gyngor Technegol) a hefyd polisi lleol (mewn ffurf Cynllun Datblygu’r Cyngor Sir- a gymeradwywyd o dan y ddeddf) sydd yn rhaid i swyddogion cynllunio dalu sylw iddynt pan yn penderfynnu os dylid gorfodi yn erbyn tor-reolaeth.

Mae’n rhaid i swyddogion cynllunio ystyried os gellir rheoleiddio’r dor-reolaeth drwy ganiatad cynllunio gydag amodau perthnasol arno.

Ni fydd pob tor-reolaeth yn cael effaith andwyol ar yr ardal leol. Fe fydd yn rhaid i swyddogion cynllunio ymarfer eu barn i ganfod os oes tor-reolaeth wedi digwydd, beth yw ei effeithiau ac os ydy’r effeithau hynny yn haeddu cael gorfodaeth yn eu herbyn.

Nodwch nad yw hwn yn ddatganiad cynhwysfawr o’r gyfraith ond yn fraslun yn unig.

Ble mae’r cyngor sir angen rhagor o wybodaeth am dor-reolaeth arbennig neu dor-reolaeth honedig, mae’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref yn caniatau iddynt wasanaethu ‘Rhybudd Tramgwydd Cynllunio’.

Mae’r rhybudd yn caniatau’r cyngor sir gwestiynnu perchnogaeth a deiliaid y tir o dan sylw a hefyd gofyn cwestiynau am natur y datblygiad ar neu’r defnydd o’r tir.

Rhaid rhoi o leiaf 21 diwrnod i berson ymateb i’r rhybudd. Wedi ei dderbyn, mae’n rhaid asesu’r wybodaeth gan swyddogion cynllunio i helpu penderfynnu os oes tor-reolaeth ar y tir ac, os felly, os dylid gorfodi yn ei erbyn.

Mae’r ddeddf yn rhoi hawl i erlyn ble mae’r rhybudd mewn grym a heb gydymffurfio ag ef.

Mae’r rhybudd yn gofyn i’r dor-reolaeth ddiweddu ac fe all ofyn i gamau gael eu cymryd i adfer y niwed yn sgil y dor-reolaeth. Mae’n rhaid i’r rhybudd roi cyfnod rhesymol i gydymffurfio a’i ofynion. 

Mae’r ddeddf yn rhoi hawl i erlyn ble mae’r rhybudd mewn grym a heb gydymffurfio ag ef.

Mae hawl i apelio yn erbyn y rhybudd i’r Arolygiaeth Gynllunio (sy’n gweithredu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol). Mae’n rhaid rhoi cyfnod o 28 diwrnod i ganiatau gwneud apel. Os gwneir apel, ni fydd y rhybudd yn dod i rym nes bod yr apel wedi ei ddyfarnu.

Mae’r ddeddf yn rhoi hawl i erlyn ble mae’r rhybudd mewn grym a heb gydymffurfio ag ef.

Er nad yw yn ffurfiol yn delio a tor-reolaeth gynllunio, mae’r rhybudd yma yn cael ei wasanaethu ble mae cyflwr eiddo yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r ardal o gwmpas. Ni ddylid ei ddefnyddio oherwydd bod y tir yn ‘fler’. Mae hawl i apelio yn erbyn datgan y rhybudd cyn y dyddiad effeithiol i Llywodraeth Cymru. Os y gwneir apel, ni fydd y rhybudd yn dod i rym nes bod yr apel wedi ei ddyfarnu. Mae’n rhaid i’r rhybudd roi cyfnod o leiaf 28 diwrnod i gydymffurfio a’i ofynion.

Mae’r ddeddf yn rhoi hawl i erlyn ble mae’r rhybudd mewn grym a heb gydymffurfio ag ef.

Mae’r cyngor sir wedi dirpwyo’r hawl i awdurdodi camau gorfodaeth i Bennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), sydd yn swyddog i’r Cyngor. Fe all Pennaeth y Gwasanaeth awdurdodi swyddog arall i ymarfer yr hawl. Mewn rhai achosion (rhai eithriadol fel arfer), fe all Pennaeth y Gwasanaeth ofyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion awdurdodi camau gorfodaeth. Mae gan y person a ofynnir iddo awdurdodi camau gorfodaeth ddisgresiwn i wneud hynny neu beidio. Nid yw argymhelliad unrhyw swyddog arall yn ei glymu i weithredu yn unol â’r argymhelliad hwnnw

Mae trefn wahanol yn ei le ar gyfer gorfodi yn erbyn gwaith anawdurdodedig i unai adeiladau rhestredig, i rai hysbysebion a ddangosir heb awdurdod neu i goeden a amddiffynir gan GDC (neu goeden mewn ardal gadwraeth).