Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwneud cais cynllunio


Sut i wneud cais

Daw caniatâd cynllunio oddi wrth yr Awdurdod Cynllunio Lleol trwy lenwi’r ffurflenni cais angenrheidiol. Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn llenwi eich cais cynllunio’n gywir oherwydd, os nad yw’r wybodaeth fanwl ar y ffurflenni yn gywir, yna ni allwn ddechrau’r broses a bydd yn oedi’r penderfyniad. 

Bydd y rhestr adolygu ganlynol o gymorth:

  • cael y ffurflenni cais
  • llenwi rhannau perthnasol y ffurflenni’n llawn a chofio’u llofnodi a’u dyddio
  • cyflwyno nifer a math cywir y cynlluniau ategol. Dylai pob cais ddod gyda chynllun safle ar raddfa 1:2500 o leiaf a chynlluniau, trawsluniau a gweddluniau manwl, pan yn berthnasol
  • cwblhau ffurflen Dyluniad a Mynediad

Gwnewch gais trwy'r Porth Cynllunio

Efallai y byddwch eisiau bod yn gymydog da a rhannu eich cynlluniau efo nhw gan fod y Gwasanaeth Cynllunio yn debygol o ymgynghori’n swyddogol â nhw ar y cais.

Mae'n bosib cyflwyno eich cais drwy'r cyngor neu drwy'r Porth Cynllunio. Rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny trwy’r Porth Cynllunio - yno mae modd cwblhau’r holl broses ar-lein.  Mae dull o’r fath yn gyflymach i chi ond hefyd yn rhatach am nad oes raid darparu nifer o gopïau o’r cynlluniau nac o’r ffurflenni. 

Un mantais arall yw y bydd gennych, dan y system newydd, drywydd archwilio o’r dyddiad cyflwyno oherwydd bod y manylion yn cael eu cadw yn y Porth Cynllunio.

Gwnewch gais ar lein ar y Porth Cynllunio

Sut i dalu

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020 wedi'u cymeradwyo gan y Senedd a byddant yn dod i rym ar 24 Awst 2020.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 a nodir crynodeb o'r prif newidiadau isod:

  • bydd ffioedd ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig yn destun cynnydd cyffredinol o oddeutu 20%. Mae tabl o'r newidiadau i’r symiau ynghlwm yn yr Atodiad i'r llythyr hwn
  • mae'r terfynau uchaf a'r capiau i ffioedd wedi cynyddu oddeutu 4%
  • bydd ffioedd am wasanaethau cyn-ymgeisio yn aros yr un fath; a
  • cyflwynir ffi o £230 ar gyfer ceisiadau sy'n ymwneud â Thystysgrifau Datblygiad Arall Priodol

Dylid cyflwyno’r ffi gyda’ch cais. Gellir ei dalu yn y dulliau canlynol:

  • Defnyddio ein sustem talu ddiogel :-
  • Cerdyn credyd/debyd trwy ffonio 01248  752428. 
  • Drwy BACS (cysylltwch â ni am fanylion BACS ar 01248 752428)

Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y ffi gywir, cysylltwch â’r adran gan na ellir cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’ch cais tan y bydd y ffi gywir wedi ei derbyn. 

Os ydych yn meddwl am gyflwyno ffurflenni cynllunio rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny trwy’r Porth Cynllunio - yno mae modd cwblhau’r holl broses ar-lein.  Mae dull o’r fath yn gyflymach i chi ond hefyd yn rhatach am nad oes raid darparu nifer o gopïau o’r cynlluniau nac o’r ffurflenni.  Un mantais arall yw y bydd gennych, dan y system newydd, drywydd archwilio o’r dyddiad cyflwyno oherwydd bod y manylion yn cael eu cadw yn y Porth Cynllunio.

Mae angen cyflwyno tystysgrifau sy’n cadarnhau manylion perchenogaeth ac os yw’r safle’n rhan o ddaliad amaethyddol.

Yn dilyn cyflwyno cais dilys byddwn yn cydnabod ei dderbyn ac yn rhoddi rhif cyfeirio unigryw i chwi.

Bydd eich cais yn cael ei roi i swyddog achos fydd yn gyfrifol am ddelio â’ch cais. Bydd ei identiti ef/hi yn cael ei arddangos ar y llythyr cydnabod. Gallwch gysylltu â’r swyddog hwn/hon i drafod sut y mae eich cais yn mynd yn ei blaen.

Mae’n ofynnol i’r cyngor hysbysu, yn ysgrifennedig deiliaid eiddo sy’n cael ei effeithio gan eich cynnig. Bydd hyn yn cynnwys eich cymdogion agos ac efallai deiliaid eiddo gyferbyn, neu thu cefn, i’ch eiddo.

Mae ffurflenni cais cynllunio yn ddogfennau cyhoeddus a mae yr holl wybodaeth sydd yn gynwysiedig ynddynt (gan gynnwys data bersonol fel eich enw a chyfeiriad) ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus yn swyddfeydd y cyngor ac hefyd ar y wefan hon. Mae’n bosib felly bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson, neu fudiad, gyda mynediad i’r rhyngrwyd yn fyd-eang.

Gellir ei datgelu i adrannau eraill o’r cyngor ac asiantaethau perthnasol eraill yn unol a chofrestriad y cyngor dan y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Gweler 'Newidiadau i ffioedd ar gyfer ceisiadau cynlluno a cheisiadau cysylltiedig' uchod.

Ffioedd cais cynllunio