Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Eich hawl i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio


Siarad Cyhoeddus yn y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ystod y pandemig Covid-19

Cyfarfodydd rhithiol fydd cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ystod y pandemig Covid-19 ac mae’r ‘Protocol Siarad Cyhoeddus yn y Pwyllgor’ sydd wedi ei gyhoeddi gan y Cyngor wedi ei ddisoldi gan y ddogfen ganlynol yn ystod y cyfnod hwn. Dogfen Protocol [PDF | 76kb ]

Rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb cyfrannu dal gofrestru i siarad yn unol â’r protocol ond byddant yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn rhithiol drwy Zoom. Rhaid i gyfranwyr sicrhau bod ganddynt fynediad i Zoom er mwyn gallu cymryd rhan. Gallai’r canllawiau canlynol eich cynorthwyo. Llawlyfr Canllawiau Zoom [PDF | 1,379kb ]

Yn ogystal, bydd angen i chi ddarparu datganiad ysgrifenedig (dim hirach na 2 dudalen A4, o destun plaen heb ddelweddau na dolenni) sy’n rhaid ei gyflwyno dim hwyrach na 5pm ar y dydd Llun cyn y Pwyllgor ar gyfer ei ddarllen allan yn y cyfarfod yn eich absenoldeb os nad ydych yn dymuno, neu os na allwch am unrhyw reswm, gymryd rhan yn y cyfarfod rhithiol.

Cymerir eich sylwadau i ystyriaeth wrth benderfynu’r cais. Dylid anfon ceisiadau i siarad ynghyd â datganiadau ysgrifenedig at cynllunio@ynysmon.llyw.cymru gan nodi cyfeirnod y cais. Tra byddai gohebiaeth ar e-bost yn cael ei ffafrio ac yn gymorth i hwyluso gweinyddu’r broses, gallwch bostio eich sylwadau at Y Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW. Er mwyn gallu cymryd rhan mewn cyfarfod rhithiol o’r Pwyllgor, rhaid i chi ddarparu rhif ffôn cyswllt a’r cyfeiriad e-bost yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio er mwyn cael mynediad i’r cyfarfod.

Mae’n bosib na fydd unrhyw sylwadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad ac amser cau yn cael eu adrodd i’r Pwyllgor.

Cyhoeddir y rhaglen ar gyfer pob Pwyllgor 3 diwrnod gwaith o flaen llaw.

Cyhoeddir y penderfyniad ar unrhyw gais ar wefan y Cyngor.

Mae’r cyngor eisiau bod yn agored a thryloyw yn ei holl weithgareddau ac mae ganddo bolisi sy’n gadael i aelodau’r cyhoedd/asiantiaid/ymgeiswyr siarad yn y Pwyllgor Cynllunio pan fydd y pwyllgor hwnnw yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Fe allwch wneud cais i siarad yn y cyfarfod os bydd hynny’n bodloni popeth sy’n cael ei nodi yma.