Gwasanaethau'r Cyngor:

Cysylltwch â ni

Ceir manylion cyswllt y gwasanaethau unigol drwy’r safle - gweler y llyw ar y dde pan yn pori drwy’r safle.

Gallwch gysylltu â Chyngor Sir Ynys Môn i:

  • ofyn cwestiwn / gwneud sylwadau neu awgrymiadau
  • adrodd problem neu wall
  • wneud cais/cofrestru am nwyddau a gwasanaethau
  • wneud cwyn swyddogol
  • wneud cais rhyddid i wybodaeth
  • cymryd rhan mewn ymgynghoriadau

Mae nifer o wahanol ffyrdd i’n cysylltu:

Gyda ffôn:

Rhif ein prif switstfwrdd yw 01248 750057. Oriau agor 08:45 i 17:00 Ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.  

Rhifau ffôn argyfwng ar gyfer oriau thu allan i oriau swyddfa arferol, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus:

Priffyrdd: 01248 723062

Tai: 01248 750099

Gwasanaethau Cymdeithasol: 01286 675502

Os ydych eisiau ffonio gwasanaeth yn uniongyrchol, dilynwch y linciau yn y llyw ar y chwith i dudalennau cyswllt y gwasanaeth perthnasol. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r rhif, galwch y switsfwrdd canolog. Bydd tim ein switstfwrdd yn eich cynorthwyo yn uniongyrchol neu yn trosglwyddo eich galwad i berson fydd yn gallu eich cynorthwyo.

Drwy’r wefan gydag ebost

Mae gan y prif wasanaethau gyfeiriadau ebost. Defnyddiwch ein A -Y neu Chwiliotwr y safle sydd wed’i lleoli ar ben pob tudalen i gyrraedd tudalennau cyswllt y gwasanaethau unigol.

Cofiwch nad yw ebost yn hollol ddibynadwy ac mae rhai negeseuon yn mynd ar goll. Os nad ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth neu ateb gennym ar ol tri diwrnod gwaith, danfonwch eich neges unwaith yn rhagor gyda manylion cyswllt ychwanegol er mwyn ein cynorthwyo i gysylltu â chi.

Nodwch bydd eich e-bost yn cael ei wrthod gan ein system os ydych wedi cynnwys atodiadau mawr, neu os mae’r darparwyr e-bost dan unrhyw waharddiad o gwbl. Os ydych yn atodi ffeiliau maint mawr, yn anfon gwybodaeth bwysig, neu angen ymateb o fewn amser arbennig, rhowch alwad ffôn dilynol i sicrhau ein bodi wedi derbyn eich e-bost.

Mewn person

Am wybodaeth ar sut i ddod o hyd i’n swyddfeydd ac adeiladau, gweler ein tudalen “Ble mae ein swyddfeydd” am fanylion ar lleoliad y swyddfeydd. Am wasanaethau unigol, mae’n debyg bydd rhaid i chwi drefnu apwyntiad i weld aelod o staff. Mae’r tudalennau hyn yn rhoi manylion am oriau agor y swyddfeydd.

Gyda phost:

Os nad oes gennych gyfeiriad uniongyrchol y gwasanaeth (dangosir yn arferol ar filiau neu lythyrau gan y cyngor), ysgrifennwch at ein prif gyfeiriad post:

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Rhestrir cyfeiriadau post eraill ar y tudalennau cyswllt unigol. Defnyddiwch ein A -Y neu Chwiliotwr y safle sydd wed’i lleoli ar ben pob tudalen i gyrraedd tudalennau cyswllt y gwasanaethau unigol. Cofiwch gofnodi enwau’r staff rydych yn delio gydag ynghyd â unrhyw gyfeirnod cyn galw neu ysgrifennu atom.

Gyda Ffacs:

Os ydych yn dymuno danfon ffacs, defnyddiwch ein A -Y neu Chwiliotwr y safle sydd wed’i lleoli ar ben pob tudalen i gyrraedd tudalennau cyswllt y gwasanaethau unigol.

Ymholiadau gan y cyfryngau yn unig

Gofynnir i newyddiadurwyr beidio cysylltu â gwasanaethau unigol. Bydd ein Swyddfa Wasg (01248 752130) yn hapus i’ch cynorthwyo a byddem yn trefnu i chi gysylltu â chynrychiolydd perthnasol. 

Diweddariad diwethaf: 17 Meh 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?