Diwrnod amgylcheddol yn Llanfaes
Cafwyd diwrnod llwyddiannus o lanhau yn Llanfaes ger Biwmares yn ddiweddar gyda 8 tunnell o wastraff ac ailgylchu yn cael ei glirio.

Trefnwyd y ‘Diwrnod Gweithredu’n Amgylcheddol’ gan Lois Roberts ac roedd yn gyfle i gefnogi ac annog preswylwyr i ailgylchu ac i gael gwared â’u sbwriel yn gyfrifol.
Roedd Swyddogion Hyrwyddo Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn ar gael i roi cyngor i breswylwyr ar sut i ailgylchu ac yn darparu bocsys ailgylchu newydd os oedd eu hangen. Roedd Swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yno hefyd ac fe gynhalion nhw 41 archwiliad tân am ddim yn ogystal â darparu gwybodaeth ddefnyddiol i breswylwyr. Casglwyd sbwriel gan wirfoddolwyr ac fe gafodd yr ardal ei lanhau.
Roedd preswylwyr Llanfaes yn cael dod a’u gwastraff swmpus i sgipiau, ble roedd y gwastraff yn cael ei ddidoli i wastraff cyffredinol, eitemau trydanol, pren a metel er mwyn sicrhau fod cymaint o wastraff a phosib yn cael ei ailgylchu. “Rydym wedi cael cefnogaeth y preswylwyr yma heddiw, sydd wedi cael y cyfle i gael gwared â’u gwastraff swmpus. Mae nifer o bobl wedi dweud eu bod yn gweld gwahaniaeth ac yn diolch i ni am gasglu’r sbwriel a thacluso’r pentref,” meddai Lois, Cydlynydd Prosiect Trefi Taclus Cyngor Sir Ynys Môn.
Yn cydweithio ar y Diwrnod Gweithredu’n Amgylcheddol gydag Adain Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn oedd: Biffa, Cadwch Gymru’n Daclus, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, staff Fat Face Biwmares, staff y Spar Biwmares, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru ac Ysgol Coed Menai.
“Rydw i’n falch fod preswylwyr Llanfaes wedi cefnogi’r diwrnod ac mae’r gwaith clirio wedi bod o fudd i ni gyd. Rydym yn ailgylchu’n dda ar Ynys Môn ond mae pawb yn falch o gael cefnogaeth i barhau. Os ydych angen bocsys ailgylchu newydd neu angen trefnu casgliad gwastraff swmpus, cysylltwch â’r Adain Rheoli Gwastraff yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Rydym i gyd yn elwa drwy ailgylchu ein gwastraff,” meddai’r Cynghorydd RL Owen, Ward Biwmares.
Gall preswylwyr Ynys Môn drefnu 2 gasgliad am ddim o hyd at 4 eitem o wastraff swmpus bob blwyddyn. Ffoniwch 01248 752860 i drafod neu i holi ynglŷn â threfnu ‘Diwrnod Gweithredu’n Amgylcheddol’ yn eich ardal chi. Os ydych eisiau archwiliad tân am ddim, ffoniwch 0800 1691234.
Diwedd.
Nodiadau:
I drefnu archwiliad tân am ddim, ffoniwch 0800 1691234, ebostiwch cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk




