Ac i ffwrdd a ni! Mae llyfrgelloedd ar draws Ynys Môn yn paratoi lawnsio plant i’r awyr ar antur i’r gofod fydd yn eu cadw’n darllen trwy gwyliau’r Haf gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2010(Summer Reaing Challenge)
Mae’r her yn rhad ac am ddim, sydd yn newyddion gwych i rhieni. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn un o nifer o gynlluniau cyffroes mae llyfrgelloed lleol yn datblygu er mwyn helpu plant caru darllen. Felly mamau, tadau a gofalwyr, ewch i’ch llyfrgell leol er mwyn darganfod mwy.
Mae Sialens Darllen yr Haf yn gynllun menter ddarllen boblogaidd a llwyddiannus iawn. Mae yn awr yn ei 12 blwyddyn, ac mae 750,000 o blant rhwng pedwar a 11 oed yn cymryd rhan trwy rwydwaith o lyfrgelloedd dros y DU.
Mae Sialens Darllen yr Haf yn syml i blant. Maent yn cael eu hannog i ddarllen chwe llyfr neu fwy o’u dwis nhw yn ystod gwyliau’r Haf gan gasglu gwobrau, tystysgrif a medal i bob plentyn sy’n cwblhau’r her.
Gall plant gofrestru yn awr yn eu llyfrgell leol ac mae’r deunyddiau yn rhad ac am ddim.
Mae gwefan rhyngweithiol Sbonc y Gofod wedi’i lansio hefyd. Mae’r wefan yn cysylltu plant gydag awduron a darlunwyr, yn eu galluogi i drafod eu hoff lyfrau a rhannu syniadau. Mae Sbonc y Gofod hefyd yn cysylltu’r plant gyda’u llyfrgell leol, lle gall llyfrgellwyr gynnig cymorth hanfodol ac arweiniad ar eu her.